Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 2 Hydref 2019.
Diolch am hynny. Ac rwy'n deall eich dyhead a'ch uchelgais i helpu busnesau bach yng Nghymru. Ond wrth gwrs, yr wythnos diwethaf, nododd Canghellor yr wrthblaid ar ran meinciau'r wrthblaid yn eich cynhadledd y byddai'n cyflwyno wythnos 32 awr, o fewn degawd, pe bai Llafur yn dod i rym. Nawr, sut y mae hyn yn cymharu â'ch awydd i annog twf busnesau bach, gan mai gallu cyfyngedig a fydd gan gyflogwyr i gyflogi mwy o staff, ond bydd eu horiau gwaith yn lleihau? Rwyf wedi derbyn sawl galwad ffôn ynglŷn a’r mater hwn, felly bydd eglurhad ynghylch yr hyn y byddai Llywodraeth Cymru yn ei wneud, neu sut y gallech reoli'r sefyllfa, yn rhywbeth y credaf y bydd perchnogion busnesau bach yn ei godi’n amlach yn y dyfodol.