Busnesau Bach

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 2 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:36, 2 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, buaswn yn dweud, yn anad dim, fod y cynigion yn uchelgeisiol. Maent yn iawn hefyd, yn fy marn i, ond nid ydynt heb eu heriau, a dyna pam fod cyfnod o 10 mlynedd wedi'i gynnig fel cyfnod pontio ar gyfer cwtogi’r wythnos waith. Yr hyn sydd bwysicaf yn economi'r DU ar hyn o bryd yw her ddeublyg diffyg twf cynhwysol—h.y. diffyg twf teg, a rhanbarthau, felly, yn cael eu gadael ar ôl—a diffyg cynhyrchiant. Ac ymddengys i mi, yn seiliedig ar arbenigedd rhyngwladol, y gellir mynd i'r afael â her cynhyrchiant drwy gwtogi'r wythnos waith, fel y gwelsom yn Ffrainc, lle y gwellodd cynhyrchiant o ganlyniad i gwtogi’r wythnos waith i bedwar diwrnod. Credaf y gallwn ddefnyddio’r un model yn y DU ac y gallwn gyflawni'r un canlyniadau â Ffrainc.