Busnesau Bach

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 2 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:38, 2 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, credaf fod adroddiad y Ffederasiwn Busnesau Bach yn hynod ddefnyddiol a byddwn yn ei ystyried yn ofalus iawn. O ran rhaglenni uchelgeisiol ar gyfer seilwaith, buaswn yn dweud bod y fasnachfraint reilffyrdd gwerth £5 biliwn, metro trawsnewidiol de Cymru, metro gogledd Cymru, sy'n gwneud cryn dipyn o gynnydd, datblygu metro de-orllewin Cymru hefyd, i gyd yn dangos bod gan Lywodraeth Cymru uchelgais enfawr ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus a'r seilwaith sydd ei angen yn sail i hynny.