Busnesau Bach

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 2 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 1:37, 2 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, busnesau bach yw asgwrn cefn ein heconomi, ac mae arnynt angen amgylchedd treth isel heb fiwrocratiaeth i allu ffynnu. Fodd bynnag, y rhwystr mwyaf i dwf ar hyn o bryd yw seilwaith gwael. Yn ôl y Ffederasiwn Busnesau Bach, mae’r mwyafrif o fusnesau Cymru wedi cael eu heffeithio o ganlyniad i’r Llywodraeth yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â seilwaith. Mae'n ymwneud nid yn unig â methiant y Llywodraeth i ddarparu ffordd liniaru’r M4 fel yr addawyd, ond â chyflwr y rhwydwaith ffyrdd, a chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus gwael. Felly, Weinidog, sut y mae eich Llywodraeth yn bwriadu mynd i'r afael â phryderon y Ffederasiwn Busnesau Bach dros y 12 mis nesaf?