Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 2 Hydref 2019.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Wel, mae'n bwysig inni yma yng Nghymru fod gennym y gallu i ddefnyddio ein dewis iaith wrth ymgysylltu bob dydd â gwasanaethau cyhoeddus. Nid yn unig yw hon yn hawl sylfaenol, mae'n hanfodol o ran meithrin ein hymdeimlad o hunaniaeth a chymuned.
Roedd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, felly, yn garreg filltir bwysig yn hanes ein hiaith. Cyhoeddodd y Mesur, am y tro cyntaf, statws swyddogol i'r iaith Gymraeg yng Nghymru. Roedd hefyd yn egluro'r disgwyliadau o ran y ddarpariaeth o wasanaethau Cymraeg o safbwynt siaradwyr Cymraeg a darparwyr gwasanaethau.
Felly, edrychon ni, fel rhan o'r ymchwiliad, ar lwyddiannau a chyfyngiadau'r Mesur, a gofynnon ni a yw’r Mesur yn cefnogi'r broses o hybu'r Gymraeg, sy'n fater nad yw wedi cael cymaint o sylw yn ein barn ni fel pwyllgor. Felly, gwnaethon ni glywed fel pwyllgor fod y Mesur yn welliant ar y system flaenorol o gyhoeddi cynlluniau iaith. Dywedwyd wrthym fod symud o'r drefn gynlluniau i'r drefn safonau wedi rhoi eglurder a hawliau i siaradwyr Cymraeg. Dywedodd y mwyafrif o dystion fod hwn yn gam cadarnhaol i'r cyhoedd ac i'r cyrff sy'n ein gwasanaethu.
Fodd bynnag, roedd peth rhwystredigaeth ynghylch cymhlethdod y drefn safonau. Wrth asesu a ddylid parhau â'r system gyfredol neu symleiddio agweddau ar y ddeddfwriaeth, gwnaethom gydnabod fel pwyllgor fod mwyafrif y sefydliadau sy'n gweithredu'r safonau ar hyn o bryd wedi bod yn gwneud hynny dim ond ers blwyddyn neu ddwy. Cytunodd y pwyllgor, felly, â Chomisiynydd y Gymraeg ar y pryd, a ddywedodd wrthym ni, a dwi'n dyfynnu, ei bod yn
'lot rhy gynnar i benderfynu bod angen newid y ddeddfwriaeth yn llwyr' ar y pwynt yma. Dywedodd y bu newid cadarnhaol ar lawr gwlad mewn nifer o gynghorau sir a oedd wedi gweld y newidiadau yn newid bywydau pobl, ac felly dŷn ni fel pwyllgor eisiau gweld hynny yn cael ei ymwreiddio yn ein cymunedau cyn bod yna newid mawr ar droed.
Yn amlwg, clywodd Llywodraeth Cymru y dystiolaeth gref a gafodd ei chyflwyno i'r pwyllgor ar hyn ac ymatebodd Llywodraeth Cymru drwy dynnu ei Bil yn ôl ar y Gymraeg ym mis Chwefror.
O ran symleiddio'r safonau, serch hynny, mae'n fater amlwg bod angen inni fynd i'r afael ag ef yn absenoldeb deddfwriaeth newydd. Gwnaethom argymell symleiddio'r drefn safonau, a hynny drwy gyfuno safonau sydd ag amcanion tebyg. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn, a hoffwn weld rhagor o fanylion ynghylch cynlluniau'r Gweinidog i ystyried sut y gellir gwneud y broses yma.
Dwi'n falch bod y Llywodraeth wedi derbyn ein hargymhelliad i gyflymu'r broses o gyflwyno safonau ar gyfer y sectorau hynny nad ydynt eisoes yn ddarostyngedig i'r Mesur. Unwaith eto, hoffwn ofyn i'r Gweinidog gyhoeddi manylion ac amserlen ar gyfer y gwaith hwn.
Rydym am weld y gyfres nesaf o reoliadau ar gyfer cwmnïau dŵr a rheoleiddwyr iechyd yn cael eu cyflwyno ar frys. Dwi'n siomedig na all y Llywodraeth ddweud mwy am hyn ac eithrio nodi'r ffaith bod safonau'n cael eu datblygu. Maent eisoes wedi cael eu gohirio am gyfnod sy'n llawer rhy hir yn ein tyb ni fel pwyllgor. Mae angen dyddiad pendant arnom ar gyfer cael eu cyflwyno.
Gwnaethom hefyd argymell diwygio'r weithdrefn gwynion, gan nad yw'r broses gyfredol yn caniatáu i gwynion gael eu datrys heb ymchwiliad llawn. Roedd diwygio'r fframwaith cwynion yn un o'r cynigion ym Mesur Llywodraeth Cymru a gafodd ei dynnu yn ôl. Felly, yn absenoldeb Bil newydd o'r fath, dŷn ni'n falch o weld bod y comisiynydd wedi cymryd camau i newid y weithdrefn ymchwilio yn unol â beth dŷn ni wedi rhoi gerbron fel pwyllgor. Ond pan ddaeth Comisiynydd y Gymraeg at ein pwyllgor ni yn ddiweddar, roedd diffyg manylion am sut oedd hynny'n mynd i gael ei wneud, a dwi'n credu bod angen i gyhoedd Cymru, sydd efallai'n mynd i gwyno, wybod beth yn sicr sydd yn digwydd ac i bwy y maen nhw'n cwyno. Felly, byddwn yn erfyn ar y comisiynydd a'r Llywodraeth i weithio gyda'i gilydd ar hynny.
Un mater dwi'n credu sydd o bwys inni orffen arno yma heddiw yw hyrwyddo'r iaith. Dyw hynny ddim wedi cael cymaint o sylw: sut rŷm ni'n hybu'r iaith. Ar ôl i Fwrdd yr Iaith Gymraeg gael ei ddiddymu, wrth gwrs, rŷm ni'n gwybod bod lot o'r gwaith hwnnw wedi cael ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru, ac mae yna lot wedi cael ei wneud. Mae'n rhaid inni gydnabod hynny. Ond, mae nifer o bobl wedi dod atom yn dweud y dylem sefydlu corff newydd, hyd-braich i hyrwyddo'r iaith. Ond, o ystyried y pwyso a mesur a wnaed gennym ni fel pwyllgor, yn sicr, o ran adnoddau, roeddem yn meddwl efallai ei bod yn haws inni weld sut yr oeddem yn gallu defnyddio'r hyn sydd gyda ni yn awr, a sut rŷm ni'n gallu defnyddio'r prosesau sydd o fewn ein gallu.
Dwi'n deall bod memorandwm o gyd-ddealltwriaeth wedi'i gychwyn gyda Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg. Ac eto, hoffwn gael mwy o wybodaeth ynglŷn â sut y mae hynny'n mynd i weithio. A yw'r comisiynydd, er enghraifft, yn mynd i gael mwy o arian i allu ymdrin â'r gwaith hyrwyddo sydd efallai'n mynd i adio at ei gylch gwaith? Neu, a oes disgwyl iddyn nhw wneud yr un peth gyda'r un gyllideb? Byddai gen i ddiddordeb mewn gwybod beth yw'r farn ar hynny.
Hefyd, hoffwn i wybod tamaid bach mwy ynglŷn â statws uned iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru. Cyhoeddodd y Llywodraeth uned gyflawni newydd o'r enw Prosiect 2050, ac er ein bod yn croesawu hyn, mae'n hanfodol i'r uned yma gael yr adnoddau a'r arbenigedd sydd eu hangen arno i lwyddo. Os yw'n mynd i edrych ar yr iaith Gymraeg ar hyd a lled beth sydd yn digwydd yn y Llywodraeth, mae'n bwysig iawn fod yr uned honno'n cael ei chefnogi.
Felly, dwi'n sicr yn ystyried bod y darn o waith yma wedi bod yn ddefnyddiol iawn inni i edrych yn ôl ar y Mesur a oedd wedi cael ei gyflwyno yn 2014. Mae lot wedi newid ers hynny, ac mae lot o gyfleoedd hefyd wedi cael eu rhoi i sefydliadau i newid yr hyn y maen nhw'n ei wneud, a lot o newid diwylliant. Dyna beth yr oeddem yn bles i glywed. Hyd yn oed mewn ardaloedd efallai ein bod ni'n meddwl sy'n ardaloedd cyfrwng Saesneg fel arfer, maen nhw wedi gwneud mwy o ymdrech i newid yr hyn sydd yn digwydd o ran eu prosesau.
Beth efallai sydd angen gwella o hyd yw defnydd a sut y mae pobl yn cael yr hyder i feddwl bod hynny yn rhan o'u bywydau bob dydd. Mae hynny nid yn unig yn sialens i'r Mesur, ond yn sialens inni oll mewn strategaethau, mewn sut rŷm ni'n gwneud ein gwaith bob dydd, a sut rŷm ni'n hybu'r iaith fel Aelodau Cynulliad. Felly, byddwn yn ennyn pobl i ymwneud â'r drafodaeth yma ac i barhau i sylweddoli pa mor bwysig yw'r elfen hon o'n gwaith ni fel Aelodau.