Part of the debate – Senedd Cymru am 5:13 pm ar 2 Hydref 2019.
Fel rydym ni wedi clywed, cyd-destun yr ymchwiliad hwn gan y pwyllgor oedd bwriad Llywodraeth Cymru yn haf 2017 i ddeddfu o'r newydd ym maes y Gymraeg, a hynny gwta 18 mis wedi i Fesur y Gymraeg 2011 ddechrau bwrw gwreiddiau. Felly, roedd Plaid Cymru yn falch iawn fod synnwyr cyffredin wedi ennill y dydd, ac yn y diwedd fod y cynigion wedi cael eu gollwng. Mae'r dystiolaeth a glywodd y pwyllgor, y consensws barn sy'n cael ei gofnodi gan fudiadau iaith, academyddion ac efallai yn bwysicach gan y sefydliadau sy'n gweithredu'r ddeddfwriaeth, i gyd yn cadarnhau nad dyma'r amser i wneud newidiadau pellgyrhaeddol i gyfundrefn gymharol newydd. Er nad ydy'r gyfundrefn honno'n berffaith, fel mae'r pwyllgor yn ei ddweud, mae wedi ac yn parhau i yrru cynnydd sylweddol o ran defnydd a statws y Gymraeg.
Er fy mod i'n croesawu penderfyniad y Gweinidog i ollwng y cynigion, mae argymhelliad 3 yn yr adroddiad, sy'n argymell y dylai unrhyw gynigion yn y dyfodol i ddiwygio neu ddisodli Mesur y Gymraeg gael eu hategu gan dystiolaeth, mae hynny'n peri pryder ac yn arwydd nad oedd cynigion y Llywodraeth ar gyfer Bil y Gymraeg wedi cael eu seilio ar y dystiolaeth. Yn amlwg, nid dyna sut y dylai Llywodraeth gyfrifol fod yn gweithredu, ac mae angen dysgu gwersi o'r gwendid yma a wnaeth arwain yn anffodus iawn at golli golwg dros gyfnod ar weithredu’r strategaeth uchelgeisiol ar gyfer creu 1 miliwn o siaradwyr. Felly, fe hoffwn i ddiolch i’r pwyllgor diwylliant am gamu i mewn i gasglu’r dystiolaeth oedd ar goll yn y drafodaeth am y Bil—i wneud gwaith y Llywodraeth drosti, buasai rhai yn dweud, ac i amlygu’r blaenoriaethau wrth symud ymlaen.
Mater i’r Llywodraeth, rŵan, ydy cydio yn y blaenoriaethau, ailafael yn yr awenau ac arwain i’w gweithredu nhw. A dwi am ganolbwyntio gweddill fy nghyfraniad ar dair blaenoriaeth o bwys, hyd y gwelaf i, ac mi fuaswn i’n gwerthfawrogi petai’r Gweinidog yn manteisio ar y cyfle wrth ymateb i roi adroddiad cynnydd ar y pwyntiau yma.
Mae’r adroddiad yn cadarnhau’n glir mai yn nwylo Llywodraeth Cymru y mae’r cyfrifoldeb pennaf dros hybu’r Gymraeg a bod angen gwella statws a rôl uned y Gymraeg. Yn amlwg, mae angen endid grymus o fewn Llywodraeth, nid uned wedi’i chladdu ym mherfeddion y gwasanaeth sifil. Rŵan, roeddwn i yn yr Eisteddfod, lle cyhoeddodd y Gweinidog mai un swydd—un swydd—newydd yn gweithio o fewn yr is-adran bresennol fydd yn cael ei chreu. Ac mi glywsom ni efo achos yr agenda gwaith teg, sydd yn hollol briodol hefyd yn flaenoriaeth drawslywodraethol—fe glywsom ni efo’r achos hwnnw y bydd yna gyfarwyddiaeth yn cael ei sefydlu yn adran y Prif Weinidog ar gyfer hyn. Pam nad ydy’r Gymraeg yn cael yr un statws yn y Llywodraeth?
Mae’r adroddiad yn argymell bod y comisiynydd yn adolygu ei weithdrefnau cwyno yn gyson o ran eu heffeithiolrwydd a’u heffaith ar ddefnyddwyr gwasanaethau. Ac mae pawb, am wn i, am weld gweithdrefnau effeithiol sy’n rhoi llais i’r dinesydd a’r Gymraeg. Ond byddai pwysau ar y comisiynydd i beidio ag ymchwilio i gwynion fel mater o drefn gyfystyr â gwanhau’r gyfundrefn safonau. Allwch chi esbonio, Weinidog, pam felly eich bod chi wedi rhoi pwysau ar y comisiynydd i wneud llai o ymchwilio i gwynion? Ac a wnewch chi gadarnhau heddiw annibyniaeth y comisiynydd?
A fy mhwynt olaf i: mae Plaid Cymru—dwi wedi syrffedu galw am gyhoeddi amserlen ar gyfer symud ymlaen efo'r gwaith pwysig o gyflwyno'r safonau yn yr holl feysydd sydd yn weddill, lle mae'r comisiynydd wedi gwneud y gwaith cychwynnol yn barod. Felly, tybed, heddiw, a gawn ni'r amserlen ddiweddaraf ar gyfer cyflwyno safonau ar y cyrff dŵr a'r rheoleiddwyr iechyd, ynghyd â gweddill y sectorau yn y Mesur sydd heb gael eu cyffwrdd ganddoch chi eto? Ac a wnewch chi hefyd gadarnhau y byddwch chi am weld y comisiynydd yn dechrau gwneud gwaith paratoadol yn y sector telathrebu?