Part of the debate – Senedd Cymru am 5:57 pm ar 2 Hydref 2019.
Addysg yw'r allwedd i lwyddiant ym mywyd rhywun, ac mae athrawon yn cael effaith barhaol ar fywydau eu myfyrwyr. Addysg yw'r pasbort i'r dyfodol, sy’n galluogi ein pobl ifanc i gyrraedd ac i gyflawni eu potensial llawn. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud cam â’n pobl ifanc o ran cyflawni hynny.
Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, nid yw canlyniadau TGAU wedi gwella. Mae Cymru ar ei hôl hi o gymharu â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yng nghanlyniadau a thablau rhyngwladol PISA a'r canlyniadau allweddol megis graddau TGAU A* i C. Mae'n frawychus fod y canlyniadau TGAU yn waeth na’r hyn oeddent yn 2007. Hefyd, mae canlyniadau cyfnod allweddol 2 a 3 wedi gwaethygu am y tro cyntaf er 2007. Mae'r dirywiad hwn mewn safonau addysgol yn gosod rhwystr yn ffordd disgyblion, gan gyfyngu ar eu henillion posibl, ac effeithio ar eu bywydau a'u gyrfaoedd. Dengys ymchwil fod buddsoddiad mewn sgiliau mathemateg a Saesneg yn darparu enillion cymdeithasol ac economaidd sylweddol. Mae dysgwyr sydd wedi cyflawni cymwysterau Saesneg a mathemateg yn sicrhau premiwm enillion sy’n amrywio rhwng 5 y cant ac 8 y cant.
Fodd bynnag, dywed adroddiad blynyddol Estyn fod y ddarpariaeth ar gyfer datblygu llythrennedd disgyblion, yn enwedig ysgrifennu, a rhifedd ar draws y cwricwlwm yn anghyson yn hanner yr ysgolion. Aethant ymlaen i ddweud bod rhy ychydig o gyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu sgiliau'n gynyddol mewn cyd-destunau dilys. At hynny, nid oes gan athrawon afael cadarn ar sut i sicrhau bod eu darpariaeth sgiliau'n briodol ac yn arwain at gynnydd. Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru wedi nodi na allai bron i 45 y cant o’r rhai sy’n gadael ysgol yng Nghymru gyflawni pum canlyniad TGAU da rhwng 2015 a 2020. Mae’r diffygion hyn yn y safonau addysg yn trosi’n gyfleoedd cyflogaeth gwael. Cymru sydd â'r cyflog isaf o bob un o 12 rhanbarth y Deyrnas Unedig. Mae cyflogau yng Nghymru £60 yn llai na chyfartaledd y DU. Roedd 36 y cant o weithwyr yng Nghymru mewn swyddi sgiliau isel yn 2018-19, o gymharu â chyfartaledd y DU o 32 y cant. Nid oes sgiliau darllen angenrheidiol i allu gweithredu yn y gweithlu gan dros un rhan o bump o fyfyrwyr Cymru. Heb gynnydd digonol yn y meysydd hyn, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fethu rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen ar ein pobl i sicrhau’r gobaith gorau posibl o gael dyfodol diogel.
Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad hirsefydlog i ddiogelu cyllid ysgolion, ac eto mae ffigurau diweddaraf Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau yn amcangyfrif bod y bwlch cyllido rhwng disgyblion yng Nghymru a Lloegr yn £645, sy’n ffigur syfrdanol. Nid yw cyllid ysgolion wedi'i ddiogelu. Rhwng 2010-11 a 2018-19 mae cyllid ysgolion wedi gostwng bron i 8 y cant mewn termau real. Mae cyllid ychwanegol i addysg yn Lloegr wedi arwain at £1.25 biliwn yn ychwanegol i Gymru dros y tair blynedd nesaf. Rhaid i Lywodraeth Cymru ymrwymo i fynd i'r afael â thanariannu hanesyddol i ysgolion. Rhaid gwrthdroi'r safon sy'n dirywio, Ddirprwy Lywydd, os nad ydym am wneud cam â chenedlaethau'r dyfodol o ddisgyblion. Mae dywediad enwog iawn gan Benjamin Franklin, un o Arlywyddion America, yn dweud mai ‘Buddsoddi mewn gwybodaeth sy’n talu’r elw gorau.’ Mae’n hen bryd i Lywodraeth Cymru sicrhau’r buddsoddiad hwn yng Nghymru. Diolch.