Part of the debate – Senedd Cymru am 6:45 pm ar 2 Hydref 2019.
Nawr, wrth ymweld â'r cartrefi hyn, gwelais angerdd staff ynghylch gofalu am eu cleifion a'u preswylwyr, ac roeddwn yn falch o wrando ar sut y maent hwy—y bobl sy'n gweithio yn y sector—yn meddwl y gallem wneud mwy i ofalu am gartrefi gofal. Daw hyn â mi at y ffordd gyntaf y gallem hyrwyddo cartrefi gofal: cyfathrebu. Mae dementia yn gyflwr sy'n effeithio ar allu ieithyddol, felly gall peidio â darparu gofal drwy gyfrwng y Gymraeg arwain at rwystredigaeth a cholli urddas a pharch.
Rwyf wedi cyfarfod â staff Cymraeg eu hiaith mewn cartrefi gofal, ond mae Comisiynydd y Gymraeg a Chymdeithas Alzheimer Cymru wedi tynnu sylw at y ffaith nad yw gofal ar gael yn Gymraeg bob amser oni bai fod rhywun yn gofyn amdano. Ni all hyn fod yn iawn, felly hoffwn eich gweld chi, fel y Dirprwy Weinidog, yn rhoi mwy o gynlluniau ar waith i gynorthwyo cartrefi i ddatblygu gallu i wneud cynnig rhagweithiol o ofal yn Gymraeg—drwy gyfrwng y Gymraeg.
At hynny, mae gwir angen edrych ar wella cyfathrebu rhwng cartrefi gofal a byrddau iechyd ac awdurdodau lleol. Er enghraifft, dylem edrych ar ddigideiddio cofnodion cleifion. Mae'n wir fod gennych system wybodaeth gofal cymunedol Cymru, ac rwy'n derbyn y gallai gweithredu'r system TGCh newydd ar draws awdurdodau lleol a byrddau iechyd helpu i sicrhau gwybodaeth hygyrch, ond beth am gartrefi gofal?
Eglurodd un rheolwr wrthyf y byddent yn elwa'n fawr o allu cael gwybodaeth am eu cleientiaid oddi ar system y bwrdd iechyd—yr un cleientiaid ag y maent yn gofalu amdanynt yn ddyddiol—er mwyn diwallu eu holl anghenion, gan gynnwys eu hanghenion iechyd. Nid Llywodraeth Cymru sy'n goruchwylio cynnwys platfformau rhyngrwyd y byrddau iechyd, ond mae ganddi'r gallu i osod lefel gliriach o ddisgwyliadau. Gallai hyn olygu bod cartrefi gofal yn cael gafael ar wybodaeth yn haws mewn gwirionedd, gan arwain at wella'u gofal.
Ffordd arall o gryfhau'r cysylltedd rhwng iechyd a gofal cymdeithasol yw drwy weithredu ar alwadau gan Age Cymru am ddyletswydd i gydweithredu yn hyn o beth. Rwy'n cytuno â'r sefydliad, ac yn credu y gallai dyletswydd fynd gryn dipyn o'r ffordd tuag at hybu ansawdd gofal i bobl sy'n cael eu trosglwyddo o gartref gofal i leoliad ysbyty ac fel arall. Cefais fy syfrdanu mewn gwirionedd o weld y gall cleifion adael eu cartref gofal am fod rhaid iddynt fynd i'r ysbyty, a bod angen llawer mwy o ofal arnynt wedi iddynt ddychwelyd.
Mae'r angen am ddeialog gryfach yn amlwg wrth ystyried digwyddiadau fel staff cartrefi gofal nad ydynt yn cael gwybod pa drefniadau adsefydlu a roddwyd i'w preswylwyr yn yr ysbyty, cleifion sy'n cael eu rhyddhau i gartrefi gofal heb unrhyw wybodaeth o gwbl, a staff cartrefi gofal na ofynnir iddynt am wybodaeth bwysig, megis sut y mae unigolyn yn nodi eu hangen am doiled ac a ydynt yn hoffi yfed o gwpan penodol, gan gyfrannu at sefyllfa lle mae rhai cleifion yn dychwelyd i gartrefi o'r ysbyty mewn cyflwr llawer gwaeth na phan aethant yno. Clywais—wyddoch chi, peth syml fel dannedd gosod yn mynd ar goll yn yr ysbyty. Felly, mae cleifion yn dychwelyd i gartref gofal heb eu dannedd gosod—rhywbeth mor syml ac angen mor sylfaenol, ond mor bwysig, fel y nododd Angela Burns yma yn gynharach ar ofal iechyd deintyddol.
Mae gan staff cartrefi gofal gyfoeth o wybodaeth a allai drawsnewid gofal rhai cleifion yn yr ysbyty. Fodd bynnag, fel y dywedodd Age Cymru, mae ffiniau proffesiynol presennol yn milwrio yn erbyn ymwneud staff cartrefi gofal, a hyd yn oed yn erbyn rhoi gwybod iddynt ar lefel sylfaenol iawn sut mae eu preswylydd tra bydd y preswylydd yn yr ysbyty. Mae yna doriad—pan aiff preswylydd i'r ysbyty, ychydig iawn o ddeialog sy'n parhau wedyn gyda'r cartref gofal. Cyfrifoldeb y cartref gofal yw cysylltu â'r ysbyty. Ni all hynny fod yn iawn. Mae'n rhaid i hyn newid a rhoddwyd camau ar waith i sicrhau bod GIG Cymru yn cydnabod gwerth y cyfraniad y gall staff cartrefi gofal ei wneud, a chymaint y maent yn malio am eu preswylwyr eu hunain.
Mae wal o'r fath wedi bod yn destun pryder o ran hyfforddi staff hefyd, sy'n dod â mi at ffordd arall y gallem wneud mwy i gefnogi cartrefi gofal. Mae ar Gymru angen tua 20,000 yn fwy o bobl i weithio ym maes gofal erbyn 2030. Nawr, rwy'n sylweddoli eich bod wedi cydnabod hyn, ac nid yw ond yn deg fy mod yn cydnabod y gwaith sy'n cael ei wneud i ddenu, cadw a recriwtio staff yng Nghymru fel rhan o ymgyrch Gofalwn Cymru. Fodd bynnag, gellid cyflawni mwy drwy edrych ar yr hyfforddiant a ddarperir i staff nyrsio. Mae sefydliadau wedi sôn wrthyf am yr angen i sicrhau bod hyfforddiant nyrsys yn cynnwys profiad yn y GIG ac yn y sector gofal cymdeithasol. Cafwyd y rhaniad hwn rhwng y ddau ers gormod o amser; mae angen eu dwyn ynghyd.
Er enghraifft, dylem annog lleoliadau nyrsio mewn cartrefi gofal, gan y gallai hynny helpu i fynd i'r afael â diffyg croesbeillio rhwng sgiliau nyrsio a sgiliau gofalu. Mae pobl yn tybio na all nyrs ond hyfforddi mewn ysbyty. Nid yw'n wir. Gallent ddysgu llawer o sgiliau drwy hyfforddi mewn cartrefi gofal mewn gwirionedd. Hefyd, ni allwch wadu nad oes llawer y gellir ei ddysgu mewn cartrefi gofal, gan fod llawer ohonynt yn fwrlwm o weithgaredd. Yn wir, mae ganddynt botensial i fod yn ganolfannau cymunedol pwysicach fyth.
Rwyf eisoes wedi cael cadarnhad ysgrifenedig fod byrddau iechyd yn cael trefnu clinigau galw i mewn mewn lleoliad heblaw lleoliadau'r GIG, a'u bod yn gwybod bod rhai cartrefi'n awyddus i agor y rhain i'r gymuned leol lle y gallant wneud hynny, megis cynnal clinigau therapi mewnwythiennol, clinigau profion gwaed. Mae'r syniad hwn yn sicr yn werth ei ystyried. Gallai cydweithrediad o'r fath sicrhau gwerth am arian, yn enwedig i'r defnyddiwr gwasanaeth lle byddai'n rhaid iddynt deithio gryn dipyn yn bellach fel arall nag i gartref i weld nyrs. Mae gweithwyr proffesiynol cartrefi gofal wedi'u hyfforddi'n dda, a lle mae ewyllys i wneud hynny, dylai fod yn rhan o genhadaeth Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ffordd i gartrefi gynnal y clinigau hyn a gwneud tasgau y mae eu staff yn fwy na chymwys i'w gwneud.
Er enghraifft, mae'n chwerthinllyd fod rhai aelodau o staff cartrefi gofal wedi gorfod aros am oriau i feddyg teulu fesur tymheredd a phwysedd gwaed, ac mae'n dorcalonnus fod rhai cartrefi'n gorfod aros yn hir pan fydd rhywun yn cwympo. Dylem i gyd gefnogi staff i wneud darlleniadau o'r fath, gan edrych ar uwchraddio modelau sydd wedi'u profi megis pecyn cymorth I-Stumble gwasanaeth ambiwlans Cymru ar gyfer cartrefi gofal. Mae synnwyr cyffredin yn dweud y byddai cynyddu'r ymyriadau clinigol sydd ar gael mewn cartrefi yn lleihau'r angen i anfon cleifion i'r ysbyty yn y lle cyntaf, neu'r angen i alw am ambiwlans neu feddyg teulu, felly dylai Llywodraeth Cymru fwrw ymlaen â hyn.
Daw hyn â mi at fy awgrym olaf ynglŷn â sut y gallem wneud mwy dros gartrefi gofal. Gwn am gartref lle mae'r awdurdod lleol yn talu i breswylydd gael aros yno, ac o ganlyniad i ddirywiad yn eu hiechyd, bydd y ffioedd yn cael eu talu yn awr gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae'n frawychus deall y bydd llai o arian yn cael ei dalu i'r cartref er y bydd yn darparu gofal mwy dwys. Mewn gwirionedd, mae'r bwrdd iechyd yn talu llai nag y mae awdurdodau lleol yn ei dalu yng ngogledd Cymru, gan osod un cartref gofal ar y trywydd i fod £155,000 yn waeth eu byd yn eu cyllideb eleni, oherwydd y gwahaniaeth rhwng ffioedd awdurdodau lleol a ffïoedd gofal iechyd parhaus.
Mae'n amlwg fod yn rhaid i chi geisio sicrhau y telir cost wirioneddol y gofal i gartrefi gofal, ac yn bendant, dylech geisio sicrhau o leiaf fod y ffi gofal iechyd parhaus yn cyfateb i'r ffi a delir gan awdurdodau lleol. Yn ddiamau, dylid ystyried hwn yn ateb tymor byr, oherwydd credaf fod angen adolygiad llawn o'r modd y cyllidir cartrefi gofal, ac mae ei angen yn awr. Serch hynny, byddai camau o'r fath tuag at ariannu cynaliadwy a theg yn hwb i gartrefi'r sector preifat sy'n teimlo fel pe baent yn cael eu cosbi dro ar ôl tro. Ddirprwy Weinidog, mae'n bryd inni ddechrau dangos ein gofal tuag at gartrefi gofal a rhoi camau ar waith, camau fel y rhai a amlinellais heddiw, i ddangos ein bod o ddifrif, a bwriad Llywodraeth Cymru i helpu i sicrhau dyfodol cadarnhaol i gartrefi mwy na 15,000 o bobl yng Nghymru. Diolch.