Dyfarniad Goruchaf Lys y DU

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 2 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:35, 2 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Fy marn bersonol yw fy mod yn cytuno â llawer o'r hyn a ddywed yr Aelod yn ei ymateb. Mae'n mynd at wraidd breuder y setliad cyfansoddiadol presennol, yn fy marn i, pan allwch weld sut y mae'n dibynnu ar bleidiau gwleidyddol yn San Steffan, a Llywodraeth y DU ar hyn o bryd, i gadw at gonfensiynau anysgrifenedig. Ac mewn gwirionedd, mae'r methiant i wneud hynny—mor aml dros yr wythnosau diwethaf—wedi datgelu gwendidau sylweddol yn ein trefniadau cyfansoddiadol. Ni ddylai fod wedi bod angen i'r Goruchaf Lys ymyrryd ar fater mor sylfaenol o briodoldeb cyfansoddiadol. Ni ddylai unrhyw Lywodraeth gwestiynu rheolaeth y gyfraith, fel y gwnaeth Boris Johnson mewn perthynas â'r ymgais i addoedi Senedd y DU. Mae gweld achos o'r fath yn mynd i'r Goruchaf Lys yn effeithio ar ein henw da, nid yn unig yn y DU, ond yn rhyngwladol. Rwy’n llwyr gymeradwyo’r egwyddorion y mae ei gwestiwn yn eu hawgrymu, y dylai cyfansoddiad y Deyrnas Unedig fod yn seiliedig ar ddwy egwyddor—cydraddoldeb rhwng gwledydd y DU, ac egwyddor sybsidiaredd. Y ddwy egwyddor hynny, gyda llaw, sydd wedi sicrhau cefnogaeth o fewn yr Undeb Ewropeaidd i aelodaeth yn gyffredinol ar draws y cyfandir, a byddai'n dda pe gallem gael ein hysbrydoli gan yr egwyddorion hynny yma yn y DU hefyd.