Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 2 Hydref 2019.
Mae'r methiant hwn yn y cyfansoddiad a grëwyd gan Brexit yn awgrymu, pan fo angen i'r llysoedd ymyrryd, nad yw'r cyfansoddiad yn gweithio, a'r gwir yw nad yw wedi gweithio ers peth amser. Felly, a fyddai’r Gweinidog yn cytuno bod angen cyfansoddiad ysgrifenedig arnom, gwladwriaeth ffederal wedi’i hadfywio, sef y Deyrnas Unedig gyda Chymru yn bartner cyfartal o fewn y wladwriaeth honno, gyda rôl warchodedig ac egwyddor sybsidiaredd yn graidd i'r cyfansoddiad newydd, sy'n golygu gwneud penderfyniadau ar lefel sy'n berthnasol i natur y penderfyniadau a wneir? A wnaiff gefnogi’r farn honno, ac a wnaiff Llywodraeth Cymru gefnogi’r farn honno?