Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 2 Hydref 2019.
Ni ddeallais yn iawn beth yw eich safbwynt heddiw, mewn cyferbyniad â'ch safbwynt ddoe a safbwynt Llywodraeth Cymru a Phlaid Lafur y DU. Yr hyn a ddywedaf yw, yn wahanol i'r Blaid Lafur, o leiaf mae gan fy mhlaid safbwynt clir iawn, sef ein bod am gyflawni Brexit. Rydym am gyflawni Brexit heb ragor o betruso neu oedi, erbyn 31 Hydref, fel y gallwn symud ymlaen a chanolbwyntio ar flaenoriaethau pobl ledled y wlad, fel datrys y llanast rydych wedi'i wneud o'n gwasanaeth iechyd gwladol yma yng Nghymru, codi safonau addysg ar ôl degawd o ddiffyg cynnydd, a rhoi mwy o heddlu ar ein strydoedd. Mae pobl Cymru eisoes wedi pleidleisio ar y mater hwn ym mis Mehefin 2016 wrth gwrs, ac mewn gwirionedd, maent eisoes wedi cael ail bleidlais hefyd, gan iddynt gymeradwyo'r safbwynt hwnnw a safbwynt maniffestos y pleidiau, yn eich plaid chi ac yn fy mhlaid innau, a ddywedodd y byddent yn cyflawni canlyniad refferendwm Brexit ac yn cyflawni Brexit. Felly, maent eisoes wedi cael dau gyfle i fynegi barn. Felly, yn lle bod fel bwystfil â thri phen, credaf ei bod yn hen bryd i'r Blaid Lafur gefnogi ymdrechion Llywodraeth y DU i gyflawni Brexit sy'n gweithio i'r DU ac sy'n gweithio i Gymru. A wnewch chi, felly, fabwysiadu’r safbwynt y credaf fod angen i’ch plaid ei fabwysiadu, sef gweithio ar y cyd â Llywodraeth y DU i gyflawni Brexit yn hytrach na cheisio'i rwystro?