Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 2 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:33, 2 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf fi awgrymu'n garedig fy mod yn meddwl mai'r hyn sydd wrth wraidd problem ei blaid yw'r dryswch rhwng slogan a pholisi? Nid yw ailadrodd 'Cyflawnwch Brexit' yn mynd i wneud unrhyw beth, ac os yw'n credu y bydd arian ar ôl i'w fuddsoddi yn y gwasanaeth iechyd, mewn ysgolion ac yn y gwasanaeth heddlu ar ôl Brexit caled, credaf fod ei ben yn y cymylau.