Part of the debate – Senedd Cymru am 4:11 pm ar 2 Hydref 2019.
Daeth y ddeddfwriaeth gyntaf i Gymru'n unig ar yr amgylchedd hanesyddol yn gyfraith yn 2016, ac mae'n faes hollbwysig i Gymru, i'n heconomi yn ogystal â'n diwylliant, ac mae'n amlwg fy mod yn ymddiddori'n arbennig yn fy etholaeth, sef Islwyn.
Mae Crymlyn yn Islwyn wedi'i leoli yng nghanol cymoedd Gwent ac mae'n ganolog i ddaearyddiaeth tasglu'r Cymoedd. Mae'n gymuned falch sydd â threftadaeth ddiwydiannol gref a chof diwydiannol cryf. Agorodd pwll glo Navigation yng Nghrymlyn yn 1907 ar ôl i'r perchnogion pyllau glo preifat, Partridge, Jones and Company Limited, dyllu yno, ac mae'n enghraifft o bensaernïaeth ddiwydiannol restredig eithriadol. Ym 1947, aeth i ddwylo'r Bwrdd Glo Cenedlaethol, yn dilyn gwladoli gan Lywodraeth Lafur Attlee, ond caewyd y drysau yn y diwedd ym 1967. Yn y degawdau dilynol, roedd yr adeiladwaith mawreddog hwn—. Os oes unrhyw un wedi bod mor ffodus neu wedi cael y pleser a'r mwynhad o deithio drwy Grymlyn ar y ffordd i Lynebwy, fe welwch gyfres o adeiladau brics coch tebyg i arddull cyfnod y rhaglywiaeth, gyda'r corn simnai nodedig, sy'n araf ddechrau dadfeilio'n adfail ers i'r draphont fynd, ond maent yn dal i fod yn rhai o'r adeiladau glofaol sydd wedi goroesi orau yng Nghymru.
Rwy'n ddiolchgar i fy nghyd-Aelod, Dai Rees, ac eraill am gyflwyno'r ddadl hon i'r Siambr oherwydd mae Crymlyn yn parhau i fod yn gymuned lofaol falch sydd â photensial adfywio economaidd enfawr i elwa'n uniongyrchol o fuddsoddiad—a dyna'r gair: buddsoddiad—yn ei seilwaith diwydiannol hanesyddol ac eiconig. Fel y cyfryw, rwy'n falch iawn fod y Gweinidog trafnidiaeth, Ken Skates, wedi cadarnhau y bydd rheilffordd Glynebwy, sy'n rhedeg yn uniongyrchol drwy gymunedau Trecelyn, Crosskeys a'r Rhisga yn fy etholaeth, yn gwasanaethu dinas bwysig Casnewydd yng Ngwent ac Islwyn yn 2020. Ac rwy'n credu bod yn rhaid gwireddu'r posibilrwydd o ailagor gorsaf reilffordd Crymlyn i wasanaethu'r gymuned hon a'i hatyniadau. Gwyddom fod agor gorsafoedd rheilffordd newydd yn broses gymhleth sy'n dal i fod wedi'i llunio a'i rheoli'n wael gan brosesau'r DU, ac rydym angen cynyddu ein gallu ar fyrder yng Nghymru i ailagor gorsafoedd ac ailddefnyddio rheilffyrdd a gollwyd i'r genedl yn ystod y 1960au, ar ôl i doriadau Beeching chwalu ein cysylltiadau trafnidiaeth a gwanhau ein heconomïau lleol.
Felly, yma yng Nghrymlyn, ym mhwll glo Navigation, mae criwiau ymroddedig o ddynion a menywod lleol wedi ymrwymo i gynnal a dod â bywyd newydd i bwll glo Navigation, a adeiladwyd i safon rhagorol. Mae'n elusen gofrestredig sy'n gweithio gyda pherchennog y safle, Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau De Cymru, i gynnal ac atal dirywiad pellach yr adeiladau hyn a darparu cynlluniau adnewyddu effeithiol. Mae'n cynnwys adeiladau gradd II eiconig a hardd fel y nodais, adeiladau a allai ffurfio calon gweithgarwch adfywio yng nghanol ardal tasglu'r Cymoedd gan fod yr amgylchedd diwydiannol hanesyddol a'i seilwaith yn adrodd stori Cymru ac yn adrodd hanes ein pobl. Y rhain yw ein hetifeddiaeth a'n dyfodol.
Maent yn cyflwyno cof cyfunol, sy'n fregus ac yn werthfawr, ac mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn trosglwyddo ein cof cyfunol a'n hetifeddiaeth ddiwylliannol o un genhedlaeth i'r llall. Nid ydym yn dymuno byw yn y gorffennol, ond mae'r gorffennol yn rhan o bwy ydym fel pobl, a phwy ydym fel cenedl. Maent yn adrodd hanes Cymru, naratif heb ei gyffwrdd yn ei holl ogoniant, y da a'r drwg, y cyfoethog a'r tlawd, y lliaws a'r ychydig, ac yn adrodd am ymdrechion ein pobl.
Mae Crymlyn, gyda phwll glo mawreddog Navigation a'r draphont goll enwog a hen orsaf drenau'r gwaith, yn galw am gamau gweithredu a gweledigaeth i'w hadfer er budd economaidd, diwylliannol, cymdeithasol a lles cenedlaethau'r dyfodol.