Part of the debate – Senedd Cymru am 4:47 pm ar 2 Hydref 2019.
Fe fydd Aelodau yn ymwybodol fy mod i wedi bod yn holi am y sefyllfa ddeintyddol yn fy etholaeth i yn Arfon ar sawl achlysur, ac mae hi yn sefyllfa ddifrifol iawn. Mae yna chwech ymarferwr yn yr etholaeth, ond does yr un ohonyn nhw yn derbyn cleifion ar yr NHS. Dydyn nhw ddim yn derbyn oedolion ar yr NHS, dydyn nhw ddim yn derbyn plant ar yr NHS, a dydyn nhw ddim yn derbyn plant a phobl ifanc efo anableddau ar yr NHS. Felly, mae nifer fawr ohonyn nhw'n gorfod mynd allan o'r ardal i chwilio am driniaeth ddeintyddol ar yr NHS—cyn belled â Dolgellau i rai ohonyn nhw, sydd awr a chwarter i ffwrdd mewn car, ac yn bellach, wrth gwrs, ar fws.
Beth mae hynny yn ei olygu yn ymarferol yn aml iawn ydy bod y cleifion yn disgwyl tan fod pethau wedi mynd i'r pen, ac yn gorfod mynd i glinig brys drwy NHS Direct ar ôl i'r broblem waethygu. Ac mae'r clinig hwnnw, yn aml iawn, o leiaf hanner awr mewn car i ffwrdd o lle mae pobl yn Arfon yn byw. Neu, os nad ydyn nhw yn gallu cyrraedd y clinig, beth sy'n digwydd nesaf ydy eu bod nhw'n troi fyny yn Ysbyty Gwynedd efo problemau difrifol iawn. Dwi'n clywed straeon yn rheolaidd ynglŷn â'r sefyllfaoedd yma; mae o'n digwydd yn gynyddol. Felly, dydy'r gwaith ataliol cychwynnol cymharol rhad jest ddim yn digwydd, a beth sy'n digwydd ydy ei fod o'n troi yn achos lle mae angen triniaeth aciwt a drud. Beth sy'n rhwystredig iawn i'r ymarferwyr deintyddol yn Arfon ydy bod ganddyn nhw le; mae ganddyn nhw'r amser i weld cleifion. Mae eu hanner nhw yn derbyn cleifion preifat, felly mae ganddyn nhw'r adnoddau, ond dydyn nhw ddim yn gallu cymryd cleifion NHS newydd ymlaen oherwydd bod y cytundeb yn rhoi cap ar y nifer o gleifion NHS fedran nhw eu derbyn. Dydyn nhw ddim yn cael eu talu os ydyn nhw'n mynd tu hwnt i'r terfyn hwnnw.
Dydy'r sefyllfa ddim wedi newid ers dwy flynedd. Mae'n anghywir i ddweud mai snapshot ydy'r darlun dwi'n ei osod gerbron, fel sydd wedi cael ei honni pan dwi wedi codi'r mater yma o'r blaen. Mae'r sefyllfa'n debyg iawn i beth oedd o ddwy flynedd yn ôl. Felly, dwi'n siomedig ofnadwy na fydd yna unrhyw gyllid ychwanegol ar gael, a dwi'n siomedig ofnadwy bod y symudiad tuag at well cytundebau ar gyfer deintyddiaeth ar yr NHS—bod y symudiad yna'n un araf tu hwnt. Dyna beth mae'r ymarferwyr yn ei ddweud wrthyf i yn Arfon hefyd. Felly, mae'r sefyllfa sy'n wynebu cleifion newydd a phlant yn fy ardal i yn mynd i barhau, er gwaethaf ymdrechion clodwiw'r pwyllgor a'r ymchwiliad undydd yma rydych chi wedi'i gynnal. Mae'n ymddangos eich bod chi wedi bod yn gwastraffu'ch amser, achos dydy'r Llywodraeth ddim yn bwriadu gwneud fawr ddim yn wahanol i beth maen nhw'n ei wneud ar hyn o bryd, ac fe fydd yr argyfwng deintyddol yn parhau.
Dwi'n falch o glywed fod yna werthusiad yn mynd i fod o ran recriwtio a chadw deintyddion ac yn edrych ymlaen i weld beth fydd casgliadau hwnnw. Hoffwn i ofyn heddiw a fyddwch chi'n edrych yn benodol ar ddiffyg deintyddion yn y gogledd ac a oes yna achos dros hyfforddi deintyddion yn y gogledd, ym Mangor, yn union fel sydd wedi digwydd efo meddygon. Oherwydd yr un ydy'r dadleuon: os ydych chi'n hyfforddi pobl mewn ardal benodol, maen nhw'n tueddu i aros yn yr ardal yna ac yn y ffordd yna yn llenwi'r bylchau sydd yna mewn nifer o ardaloedd ar draws y gogledd. Felly, dwi'n siŵr eich bod chi wedi fy nghlywed i'n gwneud y dadleuon ynglŷn â meddygon. Wel, dwi'n credu bod yr un ddadl yn wir am ddeintyddion hefyd. Diolch.