Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 8 Hydref 2019.
Does dim amheuaeth, wrth gwrs, fod Extinction Rebellion a'r streicwyr ysgol wedi trawsnewid y naratif o gwmpas yr argyfwng hinsawdd rŷn ni'n ei wynebu ar hyn o bryd. A dwi'n cytuno'n llwyr â chi fod angen llongyfarch a chefnogi'r rheini am eu hymdrechion. Wrth gwrs, mi wnaeth Plaid Cymru osod cynnig fan hyn bythefnos yn ôl yn gwneud hynny yng nghyd-destun y streicwyr ysgol, ac, yn anffodus, mi wnaeth eich plaid chi bleidleisio'n erbyn ein cynnig ni, a'i wella fe i'r graddau fel ei fod e'n rhyw ddatganiad digon tila. Ydych chi'n difaru gwneud hynny erbyn hyn?