Cynulliadau Dinasyddion

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 8 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:37, 8 Hydref 2019

Wel, beth roeddem ni'n ei wneud ar lawr y Cynulliad oedd cydnabod y ffaith bod mwy nag un ffordd y mae pobl yn gallu gweithio yn y maes a bod mwy nag un cyfraniad ar gael i'n helpu ni i ddelio â'r argyfwng sy'n ein hwynebu ni. Rŷm ni yn cydnabod y ffaith mai pobl ifanc sydd wedi arwain y llwybr yma—wrth gwrs rŷm ni. Ond mae lot o gyfraniadau eraill y mae pobl yn gallu eu gwneud, a dyna pam roeddem ni'n rhoi'r gwelliannau roeddem ni fel plaid wedi eu rhoi i lawr, a'r gwelliannau yna oedd wedi cael eu cefnogi gan y Cynulliad Cenedlaethol.