Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru ar 8 Hydref 2019.
3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu hawliau dynol pobl Cymru yn y system cyfiawnder troseddol? OAQ54486
Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder a'i hasiantaethau yn ymgorffori ac yn cynnal yr holl faterion hawliau dynol sy'n gysylltiedig â phobl Cymru o fewn y system cyfiawnder troseddol sydd heb ei datganoli.
Diolch am eich ateb, Dirprwy Weinidog. Yr wythnos diwethaf, cawsom ni ddadl am roi'r bleidlais i garcharorion, y gwnes i ei wrthwynebu a chefais fy meirniadu oherwydd hynny. Fy mhwynt i yn y ddadl honno oedd y dylem ni fod yn canolbwyntio ar adsefydlu a chymorth, a bod llawer gormod o gyn-droseddwyr yn cael eu rhyddhau heb dai nac unrhyw fecanwaith cymorth yn unol â'u hanghenion, sydd yn aml yn ymwneud â materion iechyd meddwl. Dirprwy Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi fod hyn yn mynd yn groes i hawliau dynol cyn-droseddwyr, ac a wnaiff eich Llywodraeth sicrhau y bydd pob cyn-droseddwr yn cael llety, cymorth a lles pan gânt eu rhyddhau, ac nid dim ond bag du sy'n cynnwys ychydig o eiddo pan fyddan nhw'n gadael?
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, a byddwn i'n dweud ein bod ni'n falch o dderbyn argymhellion y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn ei adroddiad ar hawliau pleidleisio i garcharorion, a byddwn ni'n gweithio i gyflwyno deddfwriaeth yn y Cynulliad i alluogi rhai carcharorion o Gymru i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol. Ond cytunaf yn llwyr bod angen i ni fuddsoddi, a sicrhau bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn buddsoddi mewn gwasanaethau priodol ar gyfer adsefydlu. Mae hynny'n cynnwys nid yn unig cyflogaeth, ond tai, addysg a gwasanaethau iechyd hefyd. Ac rydym ni'n gweithio, wrth gwrs, gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar lefel leol, yn enwedig o ran troseddu gan fenywod a'n glasbrintiau cyfiawnder ieuenctid hefyd. Ond mae'n amlwg yn hollbwysig bod gennym ni adsefydlu, yn enwedig o ran tai, ac rydym ni'n cydweithio'n agos â'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i sicrhau bod yr adsefydlu a'r tai sy'n gysylltiedig â'r gwasanaeth prawf yn cael eu gweithredu.
Pan nododd Canolfan Llywodraethiant Cymru fod gan Gymru'r gyfradd uchaf o garcharu yng ngorllewin Ewrop, ac er bod cyfanswm y dedfrydau o garchar wedi codi yng Nghymru rhwng 2010 a 2017, maen nhw wedi gostwng gan 16 y cant yn Lloegr, dywedasant fod angen ymchwil i geisio egluro cyfradd carcharu uchel Cymru. Mae hyn yn arbennig o berthnasol o ystyried bod llawer o'r gwasanaethau sydd eu hangen i reoli troseddwyr, cyn-droseddwyr a hyrwyddo adsefydlu eisoes wedi eu datganoli, gan godi cwestiynau am effeithiolrwydd cymharol y gwasanaethau datganoledig hyn, pan, er enghraifft, y dywedodd yr Ombwdsmon Carchardai a Phrofiannaeth y llynedd nad yw carchardai yng Nghymru, yn wahanol i garchardai Lloegr, yn cynnig systemau integredig ar gyfer triniaeth cyffuriau, a phryd y clywsom ni amser cinio, yn y grŵp trawsbleidiol ar blismona, nad yw panel cynghori Llywodraeth Cymru ar gamddefnyddio sylweddau wedi cwrdd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, neu dyna a ddywedwyd wrthym ni. Pa waith ymchwil y mae Llywodraeth Cymru, neu y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gomisiynu, wedi'i gyflawni neu wedi cael gafael arno ers yr adroddiad hwn i fodloni'r galw gan awdur yr adroddiad, fel bod gennym ni well ddealltwriaeth o wir achosion y gyfradd carcharu ormodol hon?
Mae hi, rwy'n credu, yn bwysig iawn ein bod ni yn ymgysylltu, gan fod gennym ni gyfrifoldebau dros y gwasanaethau datganoledig yn ymwneud â throseddwyr a'r system cyfiawnder troseddol. Wrth gwrs, rwyf i eisoes wedi sôn am bwysigrwydd ein cyfrifoldebau ynglŷn â thai, iechyd a gofal cymdeithasol, a lles, ac wrth gwrs mae camddefnyddio sylweddau yn dod o dan y cyfrifoldebau hynny. Mae hefyd yn bwysig iawn ein bod ni'n cadarnhau bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cyflawni ar ddisgwyliadau o ran eu cyfrifoldebau, a hefyd o ran cyllido.
Rwy'n falch iawn ein bod ni bellach yn edrych tuag at ailuno'r gwasanaeth prawf, ar 2 Rhagfyr eleni. Mae ailuno'r gwasanaeth prawf yn hanfodol er mwyn i ni weithio gyda'n gilydd mewn ffordd integredig o ran ein gwasanaethau. Preifateiddio'r gwasanaeth prawf oedd un o bolisïau gwaethaf y Llywodraeth Geidwadol, a wnaeth gymaint o niwed. Ond gallwn ni erbyn hyn weld yr ailuno hwn yng Nghymru. Ond byddwn i hefyd yn disgwyl i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder gyflawni argymhellion yr arolygiadau o garchardai. Rydym ni'n gwybod y bu arolygiadau dirybudd o garchardai, yn enwedig yn y Berwyn, yn ddiweddar, a byddem ni'n disgwyl i'r argymhellion hynny gael eu cyflawni o ran gwasanaethau nad ydynt wedi eu datganoli, a byddwn ni'n chwarae ein rhan o ran ein cyfrifoldebau.