3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 8 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:00, 8 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Mae'n galonogol clywed bod y bwrdd iechyd wedi ymgysylltu'n llawn â'r broses hon, mewn ffordd agored, onest a thryloyw, ac wedi cydnabod yn llawn faint yr her sy'n eu hwynebu. Mae hon yn neges gyson yr wyf wedi'i chlywed gan bob plaid, gan gynnwys rheoleiddwyr, am ymgysylltiad y bwrdd iechyd â'r amrywiaeth eang o ymyriadau sydd wedi'u rhoi ar waith. Fel sefydliad, maen nhw bellach yn dangos eu bod nhw'n benderfynol o ddysgu a gwella. Roeddent yn croesawu'r ffordd gefnogol, a heriol ar adegau, y mae'r panel wedi ymgysylltu â nhw. Mae'n gadarnhaol clywed yn arbennig bod y gwaith o gynnwys a chymell menywod a theuluoedd yn datblygu'n gyflym. Yn yr un modd, mae'r adborth gan ferched am eu profiad yn gwella, gyda phobl yn dweud eu bod yn fodlon iawn yn llawer amlach na pheidio.

Rwy'n siŵr y byddwn i gyd yn falch o glywed bod tystiolaeth gynnar o welliant yn sgil nifer o'r argymhellion, a bod y sylfeini ar gyfer hyn bellach ar waith, er bod y cynnydd cychwynnol yn arafach nag yr oedd y panel wedi gobeithio amdano. Roedd yn bwysig i'r panel, yn ei ddiweddariad cyntaf, ganolbwyntio'n benodol ar chwilio am dystiolaeth, yn ysgrifenedig a thrwy arsylwi, drwy eu hymweliadau â staff er mwyn cael sicrwydd bod yr 11 argymhelliad 'diogelu' uniongyrchol o adolygiad y colegau brenhinol yn cael eu hymgorffori mewn ymarfer. Hefyd, mae fy swyddogion yn parhau i drafod yn wythnosol gyda'r arweinwyr mamolaeth yn y bwrdd iechyd, gan adolygu set graidd o fetrigau gan gynnwys lefelau staffio, aciwtedd ac unrhyw faterion sy'n ymwneud â risg glinigol i sicrhau diogelwch cleifion a bod menywod yn cael profiad da, a chaiff yr wybodaeth hon ei rhannu â'r panel hefyd.

Felly, heddiw rwyf hefyd wedi cyhoeddi strategaeth adolygu clinigol y panel. Un o'r prif gyfrifoldebau a osodais i'r panel oedd llunio a chyflwyno cynllun i adolygu achosion y gorffennol. I ddechrau, bydd hyn yn ymestyn i achosion rhwng mis Ionawr 2016 hyd at ddiwedd Medi 2018, fel y cynigiwyd gan adroddiad y colegau brenhinol. Fodd bynnag, nid dyna fydd diwedd pethau. Mae'r panel wedi dweud wrthyf eu bod eisiau dechrau gyda dalen lân a'u bod yn achub ar bob cyfle i greu'r cyfleoedd gorau ar gyfer dysgu. Felly, maen nhw wedi cytuno ar feini prawf eang, yn ychwanegol at y rhai y mae'n ofynnol eu cyflwyno eisoes i'r systemau adolygu cenedlaethol presennol. Roedd hyn yn cynnwys adolygu gwybodaeth yn ymwneud â thua 350 o achosion lle'r oedd angen trosglwyddo'r fam neu'r baban o'r uned leol i gael gofal. O'r olwg gyntaf eang hon maen nhw wedi penderfynu, ar draws yr holl feini prawf, y dylai tua 150 o achosion gael eu cwmpasu gan adolygiad amlddisgyblaethol. Mae hyn yn cynnwys y 43 o achosion gwreiddiol a nodwyd gan y bwrdd iechyd. Mae'n bwysig egluro nad yw'r rhain i gyd yn ddigwyddiadau difrifol. Fodd bynnag, mae hyn yn tanlinellu penderfyniad y panel annibynnol i edrych ar ystod gynhwysfawr o achosion fel y gall benderfynu beth sydd wedi mynd yn dda, yn ogystal â phenderfynu pryd na ddigwyddodd hynny o bosib. Mae'n bwysig dysgu o arferion da yn ogystal ag o fethiannau mewn gofal.

Cynhelir adolygiad amlddisgyblaethol annibynnol o bob un o'r achosion hyn. Mae fy swyddogion yn gweithio'n agos gyda'r colegau brenhinol priodol i ganfod timau ychwanegol i weithio gyda'r panel i ddechrau ar y cam nesaf hwn cyn gynted â phosib. Rwyf eisiau sicrhau pob menyw a phob teulu y cynhelir adolygiad o'r gofal a gawsant, y bydd y panel yn cysylltu â nhw ac y cânt gyfle i gyfrannu at yr adolygiad os ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny ac i ofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddyn nhw o bosib. Cânt eu cefnogi i wneud hynny fel bo'r angen. Rwyf hefyd eisiau cadarnhau y gall unrhyw deulu sy'n pryderu am eu gofal gyfeirio eu hunain i'r panel i ofyn am adolygiad. Mae angen i'r broses hon gael ei gwneud yn drylwyr ac yn gadarn, ond bydd yn amlwg yn cymryd peth amser, felly nid wyf yn gosod unrhyw derfynau amser ar gyfer cwblhau.

Rwy'n benderfynol bod yn rhaid i fenywod a theuluoedd fod wrth wraidd yr holl waith sydd ar y gweill i ddatblygu pob agwedd ar y gwelliannau sydd eu hangen. Rwy'n ddiolchgar i'r panel am gyfarfod â theuluoedd ddoe er mwyn iddyn nhw allu clywed yn uniongyrchol am y gwaith hyd yma a'r camau nesaf. Er fy mod i eisiau sicrhau'r tryloywder a'r ymgysylltiad mwyaf yn y gwaith, rwyf hefyd yn cydnabod y gall y diweddariadau hyn fod yn dorcalonnus hefyd. Ond rwy'n gobeithio'n ddiffuant y bydd pwyslais parhaus ar wella, er mwyn sicrhau y darperir y safonau uchaf o ofal yn y dyfodol, yn cynnig rhywfaint o gysur. Rwyf, fodd bynnag, yn cydnabod y golled a'r torcalon y bydd llawer o deuluoedd wedi'u dioddef, ac am hynny mae'n ddrwg iawn gennyf.

Rwyf hefyd yn cydnabod bod hwn yn gyfnod anodd a heriol i'r staff, ac mae arnaf eisiau diolch iddyn nhw am eu hymrwymiad parhaus, ddydd ar ôl dydd, i barhau i ddarparu gwasanaethau mamolaeth yn yr ardal.

Mae'r misoedd diwethaf wedi gofyn am lawer o hunanholi gan y bwrdd. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth, o'm sgyrsiau gyda'r Cadeirydd, Marcus Longley, a David Jenkins, y gofynnais iddyn nhw ddarparu cefnogaeth a chyngor i'r bwrdd ynglŷn â'i arweinyddiaeth a'i lywodraethiant, fod y bwrdd yn derbyn bod angen gwneud newidiadau sylfaenol i'w ffordd flaenorol o weithio. Maen nhw wedi sylweddoli'r ffaith nad oedden nhw'n canolbwyntio digon ar ddeall ansawdd gwasanaethau, profiad cleifion nac ymgysylltu â'u staff. Maen nhw'n llawn sylweddoli'r angen i ailadeiladu ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd, staff a rhanddeiliaid.

Mae'r bwrdd yn cydnabod bod angen gwelliant sylweddol o ran y trefniadau sydd ganddyn nhw ar waith ar gyfer rheoli pryderon a digwyddiadau. Mae nifer o ffrydiau gwaith eisoes ar y gweill i wella arweinyddiaeth a diwylliant, yn ogystal â'u trefniadau llywodraethu ansawdd. Mae'n sicr y caiff y camau hyn eu llywio ymhellach gan ganfyddiadau ac argymhellion adolygiad llywodraethu ansawdd cyd-Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru yn ystod y misoedd nesaf.

Yn gyffredinol, mae hi'n galondid imi weld bod arwyddion clir o welliant ac, yn bwysig, awydd cryf a'r ewyllys i'w gyflawni. Yn ddiamau, mae taith hir o'n blaenau ac nid ydym ni eto mewn sefyllfa i ystyried unrhyw newid yn statws uwchgyfeirio'r sefydliad. Rwy'n ddiolchgar i'r panel am eu cyfraniad a'u hasesiad cychwynnol, ac am y cyngor a'r cymorth y mae David Jenkins wedi'u darparu. Rwy'n ffyddiog bod yr ymyriadau a weithredwyd yn profi'n effeithiol. Mae a wnelo hyn i raddau helaeth â'u proffesiynoldeb a'u hymagwedd, ynghyd â'r ymagwedd fyfyriol a fabwysiadwyd gan y bwrdd. Fodd bynnag, mae llawer mwy i'w wneud i ddarparu a chynnal y gwelliant parhaus mewn gofal mamolaeth y byddai pob un ohonom yn dymuno ei weld.