Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 8 Hydref 2019.
Yn anochel, mae llwyddiant y cynllun wedi arwain at gynnydd yng nghostau'r cynllun. Gyda newidiadau i'n demograffeg poblogaeth ers cyflwyno'r cynllun, ein gwir her nawr yw sicrhau bod y cynllun yn gynaliadwy ac yn addas i'r diben ar gyfer y dyfodol. Mae rhagamcaniadau'n dangos y bydd nifer y bobl sy'n gymwys i deithio am ddim o dan y cynllun presennol yn 880,000 erbyn 2021 a thros filiwn erbyn 2030. Mae'r cynnydd hwn o bosibl yn peryglu hyfywedd y cynllun yn y dyfodol.
Mae proffil oedran ein poblogaeth yn cynyddu. Mae'r rhai dros 60 yn gynyddol weithgar, yn gorfforol ac yn economaidd. Dyna pam rydym ni wedi bod yn edrych ar ddewisiadau ar gyfer rheoli costau cynyddol heb effeithio ar gymhwysedd y bobl hynny sydd â hawl ar hyn o bryd i gael tocyn teithio rhatach, mewn ffordd sy'n sicrhau cynllun teg sy'n cyflawni ein bwriadau polisi yn y tymor hir. Rydym yn parhau'n ymrwymedig i gadw'r hawl i deithio am ddim ar unrhyw adeg ac rydym yn cydnabod ei bwysigrwydd i annibyniaeth deiliaid cardiau, ond mae'n rhaid inni hefyd ystyried gwneud newidiadau i'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer ymgeiswyr newydd er mwyn cadw'r cynllun yn gynaliadwy.
Felly, rydym yn bwriadu cynyddu'r oedran ar gyfer cael yr hawl i gael cerdyn teithio rhatach dros nifer o flynyddoedd yn raddol er mwyn ei gysoni ag oedran pensiwn y wladwriaeth yn y pen draw. Bydd cynnydd graddol yn yr oedran ar gyfer cael yr hawl yn golygu na fydd newid sydyn. Ni fydd yn rhaid i'r bobl hynny fydd bron yn 60 pan fydd y newidiadau'n dod i rym ac yn disgwyl derbyn eu cerdyn teithio pan fyddant yn 60 orfod aros nes iddyn nhw gyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth i gael un. Gyda chynnydd graddol yn yr oedran cymhwysedd, bydd y bobl hynny yn cael cerdyn teithio cyn cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth. Rydym hefyd yn cynnig gwneud diwygiadau tebyg i gymhwysedd ar gyfer cynlluniau consesiynau dewisol sy'n cael eu gweithredu gan awdurdodau lleol. Wrth wneud y diwygiadau hyn i'r cynllun gorfodol, byddwn yn gallu parhau i gynnig cynllun sy'n fwy hael nag yn Lloegr, lle gall deiliaid cerdyn teithio ddal unrhyw fws ar unrhyw adeg yng Nghymru am ddim.
Nawr, rwy'n sylweddoli y bydd pryderon ynghylch y cynigion hyn, gan gynnwys yr hyn y maen nhw'n ei olygu i ddeiliaid cerdyn teithio presennol. Fodd bynnag, hoffwn ei gwneud hi'n gwbl glir na fydd unrhyw un sydd â cherdyn teithio rhatach pan wneir y newidiadau i'r gyfraith yn colli ei hawl i'r cerdyn teithio hwnnw o dan unrhyw amgylchiadau.
Mae'r Bil hefyd yn gwneud newidiadau i'r gofynion preswyliaeth ar gyfer y cynlluniau yng Nghymru. Cyfyngir cymhwysedd i berson hŷn neu anabl y mae ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa yn ardal yr awdurdod. Ar hyn o bryd, mae gan y rhai sy'n 60 oed a throsodd hawl i wneud cais am drwydded os oes ganddyn nhw breswylfa mewn ardal awdurdod lleol yng Nghymru. Ar ôl i'r newidiadau newydd ddod i rym, dim ond y bobl hynny sydd â'u hunig breswylfa neu eu prif breswylfa yng Nghymru fydd yn gymwys i gael trwydded. Unwaith eto, bydd unrhyw berson sydd ar hyn o bryd yn meddu ar drwydded nad yw ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa yng Nghymru yn cadw ei gerdyn teithio nes iddo ddod i ben. Ni fydd y newidiadau a ddaw yn sgil y darn hwn o ddeddfwriaeth yn dod i rym cyn Ebrill 2022. Felly, ni fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar unrhyw un sy'n cyrraedd 60 oed cyn y dyddiad hwn.
Dangosodd gwaith ymchwil a gynhaliwyd ar ran Llywodraeth Cymru nad yw teithio am ddim ar ei ben ei hun yn ddigon i gymell teithwyr i ffeirio eu ceir am drafnidiaeth gyhoeddus. Ymhlith pethau eraill, mae gwell dibynadwyedd o ran bysiau, gwell integreiddio a gwybodaeth hygyrch hefyd yn ffactorau allweddol a all ein helpu ni i gyflawni'r newid hwn. Nod ein casgliad ehangach o fesurau diwygio bysiau, yn ddeddfwriaethol ac yn anneddfwriaethol, a'n huchelgeisiau o ran y Metro aml-foddol yw mynd i'r afael â'r pryderon hyn. Felly, er bod temtasiwn i edrych ar y cynllun tocynnau teithio rhatach ar gyfer pobl hŷn a phobl anabl ar eu pen eu hunain, mae'n gwbl hanfodol ei ystyried mewn cyd-destun ehangach o lawer er mwyn sicrhau hyfywedd tymor hir gwasanaethau bysiau yng Nghymru.
Hoffwn droi at bwnc ar wahân ond sy'n gysylltiedig â'r rhaglen i adnewyddu cardiau teithio rhatach, a ddechreuodd ar 11 Medi, ac y mae Trafnidiaeth Cymru yn ei chynnal ar ran y 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Ers lansio'r rhaglen adnewyddu, mae Trafnidiaeth Cymru wedi derbyn dros 210,000 o geisiadau ar-lein erbyn hyn, sef tua 95 y cant o'r holl geisiadau a dderbyniwyd hyd yn hyn. Oherwydd y cynnydd enfawr yn y galw yn ystod yr ychydig ddyddiau cyntaf, cafodd y wefan ei thynnu i lawr ac yn ystod y cyfnod hwn, crëwyd llawer mwy o gapasiti a chynhaliwyd profion capasiti helaeth, mewn partneriaeth ag Age Cymru a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Roedd ceisiadau papur ar gael i'w lawrlwytho o wefan Trafnidiaeth Cymru, drwy'r post ar gais drwy'r llinell gymorth, a hefyd, wrth gwrs, ar gael drwy'r awdurdodau lleol.
Mae awdurdodau lleol wedi cymryd rhan ym mhob cam o'r gwaith dylunio ac adeiladu dros y naw mis diwethaf. Mae bwletinau rheolaidd wedi'u dosbarthu i awdurdodau lleol a phartneriaid er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw drwy gydol y rhaglen er mwyn darparu cymaint o gymorth â phosibl. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn ymateb i ymholiadau gan filoedd o aelodau'r cyhoedd, cyfryngau Cymru a chydweithwyr etholedig i'w sicrhau bod digon o amser i wneud cais a bod y cardiau teithio bws presennol yn ddilys tan 31 Rhagfyr eleni. Rwyf wedi bod yn fodlon â'r lefel o ymgysylltu ag Aelodau'r Cynulliad, gan ddangos diffuantrwydd a thryloywder a dull gweithredu cysylltiedig, yr wyf yn ei groesawu'n fawr.
Mae'r rhaglen wedi cael ei rhannu'n eang ar gyfryngau cymdeithasol, sydd wedi creu nifer fawr o geisiadau ac ymholiadau gan ymgeiswyr a'r rhai sy'n gwneud cais ar ran pobl. Mae tîm Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i barhau i gefnogi awdurdodau lleol a chydweithwyr, a bydd yn mynd i ddigwyddiadau cymunedol a lleoliadau perthnasol wrth i'r rhaglen barhau drwy'r hydref hwn. Rwy'n annog cydweithwyr i gysylltu â Trafnidiaeth Cymru os oes digwyddiadau lleol a chyfarfodydd yn cael eu cynnal er mwyn iddyn nhw gael cyfle i hyrwyddo'r newidiadau ymhellach ar draws cymunedau, wyneb yn wyneb.