5. Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Teithio Rhatach

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 8 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 4:45, 8 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf i fod yn glir, a diolch i Rhun ap Iorwerth am ei gwestiynau, a dweud nad yw Llywodraeth Leol yn gwneud arian o'r cynllun tocynnau rhatach? Mewn gwirionedd, mae Llywodraeth Leol yn cyfrannu tuag ato. Yr allwedd yw sicrhau bod yr 80 a mwy o gwmnïau bysiau ar draws Cymru sy'n cael eu had-dalu ar hyn o bryd am y cynllun consesiynau yn gweithredu ar fodelau busnes sy'n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. A'r broblem sydd gennym ni ar hyn o bryd yw, oherwydd bod 47 y cant o deithiau'n gysylltiedig â'r cynlluniau teithio rhatach, h.y. yn rhad ac am ddim ac yn seiliedig ar ad-daliad, nid oes digon o dwf yn y raddfa adennill pris taith—pobl sy'n talu am eu teithiau mewn gwirionedd. Ac mae hynny'n arwain at yr elw bychan iawn hwnnw a diffyg cynaliadwyedd yn y farchnad.

Yn ei dro, dyna pam mae angen i ni gynyddu nifer y bobl sy'n talu i ddefnyddio bysiau, a dyna pam rydym ni'n edrych ar weledigaeth eang o wneud teithio ar fws yn fwy deniadol. Rydym yn edrych ar systemau tocynnau sy'n gweithredu ar hyn o bryd mewn gwahanol rannau o'r byd, sy'n ddiddorol iawn yn fy marn i, er mwyn gwneud teithio ar fysiau yn fwy fforddiadwy i'r unigolyn, ond i gynyddu nifer y cwsmeriaid i'r fath raddau fel bod gwasanaethau bysiau a chwmnïau bysiau yn gynaliadwy ac yn ennill digon i oroesi drwy werthu tocynnau.

Rwy'n credu bod Rhun ap Iorwerth yn llygad ei le: mae pobl yn trysori eu pàs bws ac ni fydd neb sydd ag un yn awr yn cael eu hamddifadu ohono erbyn diwedd y flwyddyn. Mae digon o amser o hyd i wneud cais am y tocyn teithio rhatach, ond rwyf yn derbyn bod pobl eisiau cael y dasg honno allan o'u bywydau cyn gynted ag y gallant a gwneud cais a dyna ni. Arweiniodd hynny, ar 11 Medi, at lawer iawn o bobl yn ymweld â'r wefan, ac yn anffodus, gyda'r lled band a roddwyd iddi, fe fethodd. Dros y diwrnodau canlynol, cynyddwyd lled y band yn sylweddol a chynhaliwyd rhagor o brofion straen. Rwy'n falch na fu unrhyw broblemau ers hynny, ac rydym ni bellach wedi gweld tua 210,000 o geisiadau ar y wefan mewn cyfnod byr iawn o amser—rydym yn sôn am nifer fach o wythnosau yn unig—a dyna pam fy mod i'n ffyddiog, erbyn diwedd y flwyddyn, y byddwn wedi gallu prosesu'r holl geisiadau hynny.

O ran symud o'r car i'r gwasanaethau bysiau a'r perygl i'r gwrthwyneb ddigwydd, pobl yn penderfynu peidio â thalu am wasanaethau bysiau a symud yn ôl i'w ceir, y broblem sydd gennym ni ar hyn o bryd yw, hyd yn oed gyda theithio am ddim ar fysiau, i lawer o bobl sydd dros 60 ond sy'n dal i weithio, nid yw gwasanaethau bysiau'n atyniadol oherwydd nad ydyn nhw mor ddibynadwy â rhywbeth y byddai ei angen arnyn nhw i gyrraedd y gwaith yn brydlon, neu oherwydd nad ydyn nhw'n eu gwasanaethu yn y gymuned y maen nhw'n byw ynddi. Yn syml, nid yw'r system yn gweithredu'n gywir. Dyna pam ein bod ni'n cyflwyno'r diwygiadau drwy'r Bil bysiau. Ac ymhen amser, byddwn yn gallu darparu rhwydwaith sy'n llawer mwy integredig, lle y gallwn ni gymhwyso safonau o ansawdd uwch, lle y gallwn ni weithredu cyfundrefn brisiau decach. Ac rwy'n credu, o ganlyniad i hynny, gyda'r buddsoddiad mewn seilwaith bysiau a llwybrau cludiant a bysiau cyflym, y byddwn yn gallu denu llawer mwy o bobl o'u ceir ac ar fysiau.

O ran y gost o gynyddu'r oedran cymhwysedd, wel, mewn gwirionedd, bydd y gost yn codi os na fyddwn yn cynyddu'r oedran cymhwyster. Rydym ni'n gwybod ar hyn o bryd bod tua 750,000 o docynnau mewn cylchrediad. Yn seiliedig ar y cynnydd canrannol yn y boblogaeth dros 60 rhwng nawr a 2030, byddai'n gyfystyr, pe baem yn gwneud dim, â chyfraniad ychwanegol o tua £17.5 miliwn o bosib rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol. Yn sicr, fel lleiafswm, byddem yn disgwyl gweld cost uwch o tua £10.5 miliwn, ond mae hynny hefyd, yn ei dro, yn seiliedig ar y ffaith mai dim ond 420,000 o'r 750,000 o'r tocynnau hynny sy'n cael eu defnyddio'n rheolaidd mewn gwirionedd. Pe bai pawb yn dechrau defnyddio eu tocynnau yn fwy rheolaidd, yna byddai'r gost yn codi hyd yn oed yn fwy a byddai'r system, yn ei thro, yn dod hyd yn oed yn llai cynaliadwy. Ac mae gennym ni adnoddau cyfyngedig. Byddwn yn gwahodd unrhyw Aelod yn y Siambr i ddweud sut y byddem yn sicrhau £17.5 miliwn neu fwy yn ychwanegol y flwyddyn, er mwyn cynnal y cynllun fel y mae, wrth i bobl weithio'n hirach a bod yn fwy egnïol yn gorfforol am gyfnodau helaethach o'u bywydau.

Mae cost i eraill mewn cymdeithas os nad ydym yn gwneud y newidiadau hyn. Er enghraifft, rydym yn gwybod bod gan bobl rhwng 60 a 64 oed incwm cyfartalog uwch na phobl 35 oed neu iau. Mae ganddyn nhw hefyd lefelau is o amddifadedd materol. Nawr, dydw i ddim yn ceisio gosod un grŵp o bobl yn erbyn un arall, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod bod pobl iau yn ei chael hi'n anodd iawn nawr ac, mewn rhai rhannau o Gymru, nid yw 20 y cant o bobl ifanc yn gallu fforddio trafnidiaeth gyhoeddus nac hyd yn oed yn gallu defnyddio cludiant cyhoeddus er mwyn teithio i gyfweliad am swydd. Nid yw hynny'n iawn, a bydd y diwygiadau rydym yn bwriadu eu gwneud dros y misoedd nesaf yn mynd i'r afael â'r anghyfiawnder hwnnw.