Part of the debate – Senedd Cymru am 4:41 pm ar 8 Hydref 2019.
Mae'r cerdyn teithio am ddim, wrth gwrs, yn rhywbeth y mae pawb yn ei werthfawrogi ac yn ei drysori. Mae pobl yn edrych ymlaen, dwi'n meddwl, at gyrraedd 60 oed—[Torri ar draws.] Mae yna broblem. Na, mae'n iawn. Ydy hynny'n gweithio? Ydy o'n gweithio bellach? Rydyn ni'n iawn. Dweud oeddwn i fod y cerdyn teithio ar y bysys am ddim yn rhywbeth y mae pobl yn ei drysori, ac yn iawn felly, hefyd. Mae pobl yn edrych ymlaen at gyrraedd 60 a chael y cerdyn am ddim. A dweud y gwir, a finnau ond yn ifanc, dwi'n edrych ymlaen yn barod at allu manteisio yn y ffordd dwi'n gweld llawer o bobl yn manteisio arno fo wrth ddefnyddio’r cerdyn yma. Ac felly nid rhywbeth i'w gymryd yn ysgafn, wrth gwrs, ydy cynyddu'r oedran.
Dwi yn cydnabod nad rhywbeth fyddai'n digwydd mewn un cam ydy hyn—y byddai o'n digwydd dros gyfnod o amser. Ond, er hynny, mae yna gwestiynau dwi'n meddwl y mae'n bwysig eu gofyn ynglŷn â beth fydd effaith hyn. Rydyn ni wedi clywed cyfeiriadau at ambell un ohonyn nhw'n barod. Mi hoffwn i sicrwydd gan y Gweinidog ynglŷn â'r math o fesur fydd yn cael ei wneud i geisio rhagweld y costau allai godi yn sgil codi'r oedran—y costau'n amgylcheddol, o bosib, os ydy pobl yn dewis peidio â defnyddio'r bws ac yn defnyddio'u car eu hunain. Mae hynny'n rhywbeth sydd wedi bod o fantais fawr o gael y cerdyn teithio am ddim, sef bod mwy o bobl wedi dewis defnyddio dulliau teithio torfol. Ond hefyd, mi fyddwn i'n licio clywed am y math o fesur sydd yn neu sy'n mynd i gael ei wneud o'r costau cymdeithasol o bobl yn dewis peidio â mynd allan o'u cartrefi. Bues i'n siarad neithiwr, yn digwydd bod, ag un person a oedd yn fregus—yn fregus iawn—a oedd yn dychwelyd yn ôl i'w gartref ar ôl diwrnod ar y bws o gwmpas Ynys Môn, ac yn amlwg wedi cael pleser mawr o wneud hynny. Felly, mi hoffwn i sicrwydd ar y meysydd hynny.
Ar y mater o ddarparu'r pasys newydd, mi oedd yr anawsterau efo'r system ar-lein yn rhywbeth wnaeth achosi pryder mawr i lawer iawn o'm hetholwyr i. Edrych ymlaen sy'n bwysig, nid edrych yn ôl, ond tybed pa fath o 'stress test-io' gafodd ei wneud ar y system, o ystyried gymaint o bobl oedd yn cael eu gofyn i adnewyddu eu pasys nhw? Ac mi glywsom ni un Gweinidog—y Gweinidog cyllid, dwi'n meddwl—yn dweud ychydig wythnosau'n ôl, 'O, mae ganddyn nhw ddigon o amser; mae ganddyn nhw tan ddiwedd mis Rhagfyr'. Nid fel hynny mae pobl yn gweithio. Dwi wedi dod ar draws wn i ddim faint o bobl yn fy swyddfa i sydd eisiau sortio hyn heddiw, oherwydd eu bod nhw'n poeni eu bod nhw'n mynd i golli eu pasys, a dwi wedi gweld y loes yn llygaid pobl. Dyna pam dwi yn fy swyddfa i efo fy staff i wedi bod yn cynnig gwasanaeth i bobl, yn gwneud y cais ar eu rhan nhw, ac mae yna ugeiniau o bobl wedi bod yn dod i mewn i'm swyddfa i, ac mae wedi bod yn braf iawn gallu eu helpu nhw.
Felly, mi fuaswn i'n dymuno sicrwydd bod popeth yn cael ei wneud i ymgysylltu â phobl yn fuan i sicrhau eu bod nhw yn gallu cael adnewyddu eu pasys, a hefyd y sicrwydd, pan fydd diwrnod olaf mis Rhagfyr yn agosáu, fod y gwaith yn cynyddu o sicrhau bod pawb wedi cael y pasys newydd. Achos dwi'n gwybod am y pryder sydd yna mewn llywodraeth leol. Mae'ch ffigurau chi o'r datganiad heddiw yn dweud bod 47 y cant o bob siwrnai bws erbyn hyn yn cael eu cymryd gan bobl efo pàs. O golli'r siwrneiau hynny, mae hynny'n golled o incwm i lywodraeth leol ar adeg pan na allan nhw fforddio colli yr incwm yna. Felly, mi hoffwn i sicrwydd y bydd pethau'n dwysáu o ran yr ymdrechion i gael pawb i gael pàs newydd wrth i ddiwrnod olaf Rhagfyr agosáu.