Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 8 Hydref 2019.
A gaf i ddiolch i Russell George am ei gyfraniad adeiladol iawn, a'i gwestiynau? Byddaf yn cymryd pob un yn ei dro, mor gryno ag y gallaf, Llywydd. Yn gyntaf oll, o ran yr ymgynghoriadau sydd wedi digwydd—ac mae sawl ymgynghoriad wedi bod dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf—rydym wedi ceisio ymdrin â'r holl bryderon y mae unigolion a sefydliadau sy'n cynrychioli teithwyr wedi eu cyflwyno. Mae Russell George yn codi'r pwynt pwysig am rai unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig neu ofalwyr sydd angen cymorth ychwanegol. Byddwn yn dychmygu, o dan y cynllun dewisol, y byddai'r un broses ymgeisio a'r un ystyriaethau'n cael eu datblygu, fel na ddylai pobl fod mewn sefyllfa lle na allan nhw gynorthwyo'r bobl y maen nhw'n gofalu amdanyn nhw, neu sefyllfa lle cânt eu hamddifadu o'r cyfle i deithio ar wasanaethau bysiau lleol. Dylai'r meini prawf aros yr un fath; yr oedran cymhwysedd sy'n mynd i newid.
O ran pryderon sy'n cael eu mynegi ynglŷn â chanlyniadau cynyddu'r oedran cymhwysedd, wel, mae'n wir fod pris yn gymhelliad mawr i gael pobl allan o'u ceir ac ar fysiau. Gwelsom hynny'n glir yn y cynllun arbrofol a gynhaliwyd ar rwydwaith TrawsCymru. Fodd bynnag, un rhan yn unig yw hyn. Fy ngweledigaeth i ar gyfer gwasanaethau bysiau yng Nghymru, a fydd ond yn digwydd o ganlyniad i flaenoriaethu adnoddau yn y ffordd briodol, a hefyd cyflawni'r diwygiadau sy'n angenrheidiol i wasanaethau bysiau lleol, yw datblygu gwell seilwaith, er mwyn sicrhau bod teithiau ar fysiau'n ddibynadwy ac yn fyrrach na theithiau mewn ceir preifat, ac yn ail, sicrhau bod cynllun pris siwrnai teg ar gael i unrhyw un nad oes ganddyn nhw naill ai docyn gostyngol—h.y. pobl ifanc—neu bobl sy'n elwa o dan y drefn tocynnau teithio rhatach. Fy marn i yw y byddai pris siwrnai safonol, teg a rhad, er enghraifft £1 y siwrnai unrhyw bryd, unrhyw le ar draws Cymru, yn ddigon o gymhelliad i bobl adael eu ceir gartref, os ydyn nhw'n gwybod eu bod yn mynd i deithio o A i B yn gyflymach nag y bydden nhw mewn car.
Felly, bydd blaenoriaethu adnoddau i wella'r seilwaith a sicrhau ar yr un pryd bod gennych chi ffordd dryloyw a fforddiadwy o deithio, yn arwain at y newid moddol hwnnw. Ond bydd hefyd angen blaenoriaethu adnoddau ar gyfer gwasanaethau bysiau, a dyna pam ein bod yn cymryd camau cyfrifol nawr ynghylch cymhwysedd y cynllun tocynnau teithio rhatach. Oherwydd os na wnawn ni hynny, dim ond cynyddu a wnaiff. Bydd yn cynyddu, yn eithaf sylweddol, a byddai hynny yn ei dro yn ein hamddifadu ni o'r cyfle i gyflwyno'r pris siwrnai safonol is fforddiadwy hwnnw ar ôl gwneud y diwygiadau. Byddai'n ein hamddifadu o'r cyfle i gyflwyno lonydd bysiau pwrpasol a mathau eraill o seilwaith sy'n ei gwneud hi'n fwy deniadol i bobl deithio ar fws. Felly, mae'r hyn yr ydym yn ei wneud yn beth cyfrifol o fewn gweledigaeth llawer ehangach ynghylch y ffordd yr ydym ni'n mynd i gael mwy o bobl allan o geir ac ar fysiau ledled Cymru.
Mae'r broses o wneud cais ar gyfer adnewyddu'r cardiau wedi bod yn broses yr ydym ni wedi gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol arni. Yn wir, mae Trafnidiaeth Cymru wedi cymryd y cyfrifoldeb oddi ar ysgwyddau pob un o'r 22 awdurdod lleol, gan gydnabod nad oes gan gynghorau y gallu na'r adnoddau i wneud ymdrech mor fawr. Yn ddiweddar ysgrifennais i, a'r Cynghorydd Andrew Morgan, at bob awdurdod lleol yn eu hatgoffa o'u dyletswyddau a'u cyfrifoldebau i gynorthwyo pobl i wneud cais am docynnau teithio rhatach, ac mae hynny'n cynnwys sicrhau bod ganddyn nhw ffurflenni papur ar gael yn rhwydd a ffurflenni cais y gall unigolion eu defnyddio, a'u bod yn cael cymorth mewn llyfrgelloedd, er enghraifft. Nawr, rwy'n cydnabod bod rhai awdurdodau lleol wedi bod yn llai effeithlon nag eraill o ran darparu gwybodaeth a chefnogaeth a dosbarthu gwybodaeth i lyfrgelloedd a gwasanaethau eraill, ond rwy'n gobeithio, rhwng y camau a gymerais i, a'r camau a gymerodd y Cynghorydd Andrew Morgan, y byddwn yn gweld pob cyngor yn camu ymlaen ac yn cynnig y cymorth sydd ei angen ar bobl wrth wneud cais am y cardiau hyn.