Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 9 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:47, 9 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu nad dyma'r amser iawn i gael adolygiad. Fel y gwyddoch, rydym yn ymgynghori ar hyn o bryd ar 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir' ac rwy'n credu bod barn pobl am y cynllun datblygu gwledig yn rhywbeth y gallant ei gyflwyno yn yr ymgynghoriad hwnnw, yn enwedig, fel y dywedwch, pan fydd y cynllun yr ydym yn ei gynnig yn defnyddio cynghorwyr yn y ffordd rydych chi'n awgrymu.