Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 9 Hydref 2019.
Weinidog, rwy'n credu y bydd y bobl sy'n defnyddio neu'n byw ger yr A470 rhwng Glan-bad a Phontypridd eisiau gwybod pryd y byddwn yn symud ymlaen o'r gwaith monitro, gwaith rwy'n ei groesawu, i orfodi cyfarwyddeb yr UE ar nitrogen deuocsid mewn gwirionedd. Pryd y cawn sicrwydd ein bod yn cyflawni'r gostyngiad gwirioneddol bwysig hwn mewn llygredd aer?