Llygredd Aer ar hyd yr A470

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 9 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:08, 9 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Soniais y bydd monitro pellach wrth gwrs yn dilyn yr adroddiad a gyhoeddodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yr wythnos diwethaf. Rydym yn disgwyl i lefelau cydymffurfiaeth wella'n sylweddol, fel y dywedais, ar ôl gosod y camerâu cyflymder cyfartalog a'r cynllun arwyddion cynhwysfawr. Mae'n rhywbeth y mae angen i ni barhau i weithio arno. Rydym eisiau sicrhau cydymffurfiaeth yn yr amser byrraf posibl, felly dyna pam ein bod, er enghraifft, yn parhau i ddatblygu ac ymgysylltiad â rhanddeiliaid ar y mesurau rhagofalus a ddargedwir, ac yn achos yr A470, mae'r mesurau'n cynnwys parth aer glân, rhwystrau ansawdd aer a chyfleusterau parcio gwell.