Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 9 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:44, 9 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Felly, bum mlynedd yn ddiweddarach, nid ydych yn siŵr; nid ydych yn gwybod. Efallai fod hynny'n awgrymu bod angen i rywun wneud gwaith i edrych ar y defnydd o'r arian penodol hwnnw, oherwydd wrth gwrs, dywedwyd wrth ffermwyr ar y pryd y byddai'r arian a gâi ei dynnu o'u taliadau uniongyrchol yn dod yn ôl iddynt mewn gwirionedd drwy'r rhaglen datblygu gwledig. Mae'r realiti, wrth gwrs, yn wahanol iawn, oherwydd gwelsom sut y gostyngodd cyllideb y rhaglen yn sylweddol yn 2016, o £956 miliwn, o ganlyniad i ddiwygio'r gyfradd gydgyllido ddomestig a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, i'r hyn sydd bellach yn gyllideb gyfan o £828 miliwn ar gyfer cyfnod y rhaglen, wrth gwrs, sy'n dod i ben y flwyddyn nesaf.

Nawr, yn waeth byth, o ddiwedd mis Awst eleni, dim ond 41 y cant o gyfanswm cyllideb y cynllun datblygu gwledig a wariwyd gennych. Felly, ar ôl mynd ag arian o bocedi ffermwyr Cymru ar y sail y câi'r arian ei gynyddu i'r eithaf mewn perthynas â datblygu economaidd yn y Gymru wledig, a allwch roi sicrwydd i bawb na fydd rhagor o erydu ar gronfeydd y cynllun datblygu gwledig oherwydd gostyngiadau pellach yn y gyfradd gydgyllido? Ac a ydych yn cydnabod, ar y cam diweddar hwn, fod perygl real iawn y bydd eich Llywodraeth yn methu gwario'r gyllideb yn effeithiol ac yn llawn?