Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 9 Hydref 2019.
Wel, yn sicr, nid wyf am weld hynny a dyna'r drafodaeth a gefais gyda swyddogion. Cyfarfûm â phennaeth Taliadau Gwledig Cymru yr wythnos diwethaf i drafod yr union fater hwn. Fel y gwyddoch, mae'n rhaglen saith mlynedd. Mae'r cynigion ar gyfer gweddill y gweithgarwch o dan y cynllun datblygu gwledig presennol wedi'u cytuno fis Rhagfyr diwethaf. Bydd angen addasu'r rhaglen ar gyfer y cynigion. Felly, maent yn amlwg yn amodol ar gymeradwyaeth y Comisiwn Ewropeaidd. Ond y neges rwy'n ei rhoi yw fod yn rhaid i ni wneud y mwyaf o'r arian hwn, ac yn sicr nid wyf am i hynny fod yn fethiant.