Triumph Furniture ym Merthyr Tudful

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 9 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 3:05, 9 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae cau'r cwmni hwn a cholli 250 o swyddi yn amlwg yn newyddion drwg i fy etholaeth, ond mae'n sicr yn newyddion drwg iawn i'r unigolion hynny a'u teuluoedd ac i economi leol Merthyr Tudful. Yn anffodus, daw hyn ar ben colli swyddi eraill, gan gynnwys y rhai yn Hoover, a'r bwriad i symud 250 o swyddi'r Adran Gwaith a Phensiynau o Ferthyr Tudful. Ond a gaf fi ddiolch i'ch swyddogion am eu cyfarfodydd â'r cwmni yn ddiweddar? Yn amlwg, er gwaethaf ymdrechion i ddod o hyd i ateb, roedd problemau'r cwmni'n rhy fawr i allu eu datrys y tro hwn.

Yn amlwg, rhaid mai'r flaenoriaeth yn awr yw cael cymaint o gymorth ag sy'n bosibl i'r bobl sydd, yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, yn ddibynnol yn awr ar y Gwasanaeth Taliadau Diswyddo i dalu eu harian diswyddo. Felly, a allwch fy sicrhau bod Llywodraeth Cymru a'ch partneriaid yn gweithredu cyn gynted ag sy'n bosibl i gynorthwyo staff, yn enwedig gan fy mod yn gwybod bod rhai o'r gweithwyr a ddiswyddwyd eisoes yn byw o'r llaw i'r genau? Gwn fod hynny'n swnio'n ddramatig, ond i lawer dyna realiti eu bywydau bob dydd mewn gwirionedd, er eu bod yn gweithio.

Y tu hwnt i hynny, mae angen inni hefyd ddysgu gwersi o'r sefyllfa hon, felly a gaf fi ofyn i chi ein helpu i ddeall union achosion y gostyngiad trychinebus a fu yn nifer yr archebion ers mis Gorffennaf eleni ac i ba raddau y gellid bod wedi lliniaru hynny? Gwn fod fy nghydweithiwr, Gerald Jones AS, wedi bod mewn cysylltiad â'r Adran Gwaith a Phensiynau ynghylch colli eu harchebion gyda'r cwmni, a byddai'n dda gwybod pam y bu i'r adran honno, heb ymgynghori mae'n debyg, atal archebion gwerth tua £400,000 i Triumph Furniture, gan adael twll mawr yn eu llyfr archebion a phroblem fawr o ran llif arian. A oedd hyn yn gysylltiedig â moratoriwm gan Lywodraeth y DU ar gontractau'r sector cyhoeddus, ac os felly, pwy sy'n cymryd cyfrifoldeb am ganlyniadau'r gweithredu hwnnw?

Mae'r cwmni wedi dweud hefyd fod llawer o'u harchebion o'r sector preifat wedi diflannu oherwydd yr ansicrwydd ynghylch Brexit. A wyddom faint o gwmnïau eraill a allai wynebu sefyllfa debyg? Mae'n rhaid inni edrych ar y sefyllfa gyfan o ran Brexit a'r effaith y mae'n ei chael ar yr hinsawdd fusnes yn gyffredinol ac amharodrwydd cwmnïau i fuddsoddi mewn offer newydd ac yn y blaen. Gyda'r economi'n arafu, ofnaf y byddwn yn gweld llawer mwy o hyn wrth i'n sylfaen weithgynhyrchu yn y Cymoedd gael ei tharo'n galed gan ansicrwydd ynglŷn â'r dyfodol, felly buaswn yn croesawu datganiad manwl gan y Llywodraeth ar sut y mae'n ceisio mynd i'r afael â hyn o fewn ei strwythur economaidd.

Yn olaf, Weinidog, a gaf fi ddiolch i bob un o'r partneriaid lleol niferus sydd yn awr, rwy'n gwybod, eisoes yn gweithio mewn ymateb i'r sefyllfa druenus hon ac yn ceisio helpu staff sydd wedi colli eu swyddi? Gwerthfawrogir eu hymdrechion wrth i bawb ohonom geisio gwneud ein gorau dros y gweithwyr di-waith hyn yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod.