Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 15 Hydref 2019.
Diolchaf i'r Aelod am y pwyntiau yna. Wrth gwrs, mae'n iawn nad yw eiddo gwag yn ased gwastraff y gellid eu rhoi at waith da yn unig, ond maen nhw hefyd yn cael effaith ar bob un o'u hamgylch. Dyna pam y penderfynasom fuddsoddi £10 miliwn o ganlyniad i waith tasglu'r Cymoedd i ailddechrau defnyddio mwy o gartrefi gwag. Ac mae cannoedd o dai gwag yn etholaeth yr Aelod a fydd, o bosibl, yn gallu elwa nawr o'r cynllun a ddechreuodd yn Rhondda Cynon Taf, ac mae ei lwyddiant wedi caniatáu i ni ei ledaenu mewn mannau eraill. Seiliwyd holl raglen tasglu'r Cymoedd ar ddysgu o brofiad cymunedau lleol a chymryd y blaenoriaethau y maen nhw'n eu cyflwyno i ni. Cynhaliwyd digwyddiad ymgysylltu â'r cyhoedd yn neuadd y dref Maesteg, yn etholaeth yr Aelod, ar ddechrau proses ymgysylltu'r tasglu, a chodwyd eiddo gwag fel un o'r themâu allweddol gan bobl a oedd yn bresennol yn y digwyddiad hwnnw. Nawr, mae'r tasglu wedi bod yn ôl i gymoedd Ogwr, Llynfi a Garw yn ddiweddar, ac, unwaith eto, roeddem ni'n gallu esbonio i bobl sut y bydd y grant newydd ar gael ac y gallai wneud gwahaniaeth i fater a godwyd ganddynt gyda ni.
Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwynt y mae Huw Irranca-Davies wedi ei wneud, ynglŷn â'r angen i gymunedau lleol fod yn llygaid a chlustiau ein hymdrechion yn y maes hwn. A chefais fy atgoffa, Llywydd, o glywed y cwestiwn, am sgwrs a gefais gyda swyddogion Gweriniaeth Iwerddon ynglŷn â gweithrediad y dreth ar dir gwag yn y Weriniaeth, lle'r oedden nhw'n pryderu i ddechrau ynghylch sut y byddai tir gwag yn cyrraedd y gofrestr yr oedden nhw wedi ei chreu, ac yn ymarferol yr hyn sydd wedi digwydd yw mai dinasyddion sydd wedi ymddangos fel llygaid a chlustiau'r gofrestr. Mae pobl yn ffonio'r awdurdod lleol, gan wybod bellach bod cofrestr i adrodd iddi, er mwyn sicrhau bod tir gwag yn cael ei roi ar y gofrestr ac y gellir gwneud defnydd gwell ohono. Ac rwy'n credu y bydd defnyddio cymunedau lleol a'u gwybodaeth ar lawr gwlad, a'u pryder ynghylch eiddo gwag, nawr bod gennym ni'r cynllun newydd, yn ffynhonnell hanfodol o wybodaeth.