Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 15 Hydref 2019.
Wel, Llywydd, nid yw'n fater o hyder o gwbl; mae'n fater o ddewis gwleidyddol. Nawr, mae gan yr Aelod ei ddewis gwleidyddol, ac felly hefyd ei blaid, ac mae hynny'n gwbl deg ac wrth gwrs bydd ymgyrch dros hynny, ond mae posibiliadau eraill i Gymru hefyd. Ac, yn y papur y byddwn ni'n ei drafod yn ddiweddarach y prynhawn yma, rwyf i wedi nodi'r dyfodol i Gymru fel y byddai'r Llywodraeth hon a'r blaid hon yn ei weld. Ac nid mater o hyder ydyw; mae'n fater o sut y gall pobl fynegi gwahanol bosibiliadau ar gyfer y dyfodol. I mi, y ffordd orau o sicrhau dyfodol Cymru yw fel aelod llwyddiannus o Deyrnas Unedig lwyddiannus ac Undeb Ewropeaidd llwyddiannus. Credaf fod y ddau undeb yn iawn i Gymru. Gadewch inni gael y ddadl—y ddadl yw natur gwleidyddiaeth, a dylem ni ei chael, wrth gwrs.
Yn y ddogfen y byddwn ni'n siarad amdani yn ddiweddarach, rydym ni'n cynnig, fel yr ugeinfed pwynt o 20, y dylid cael confensiwn cyfansoddiadol. Credaf mai pwyslais y confensiwn cyfansoddiadol ddylai fod sut i wneud i'r DU weithio'n well yn y dyfodol—sut i sicrhau bod y DU yn parhau i fod yn endid llwyddiannus y mae Cymru'n chwarae ei rhan lwyddiannus ynddi. Ond, os oes gennych chi gonfensiwn cyfansoddiadol, ac yn enwedig os oes gennych chi un sy'n cynnwys dinasyddion, yn ogystal â'r bobl hynny sy'n chwarae rhan ynddo ar hyn o bryd, yna bydd y cyfle hwnnw ar gael i bobl gyfrannu eu syniadau, i ddadlau dros gynigion eraill. I fynd yn ôl at y pwynt a wnaeth yr aelod ar y dechrau: dadl, trafodaeth a phenderfyniad democrataidd yw'r ffordd iawn o ddatrys y materion hyn.