Effaith Ariannol Annibyniaeth

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 15 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:18, 15 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n sefyll mewn undod heddiw gyda Democratiaid Catalwnia a garcharwyd, ac efallai, o'r sylwadau a glywsom yn gynharach, yr hoffai Plaid Brexit fy rhoi dan glo am yr hyn yr wyf i ar fin ei ddweud, ond fe'i mentraf—[Torri ar draws.] Fe'i mentraf beth bynnag. Rwyf i bob amser yn ei chael hi braidd yn ddigalon pan fydd cyd-Gymro fel David Rowlands yn dangos y fath ddiffyg hyder a barn mor isel am Gymru a'i photensial, gan gredu, mae'n debyg, bod gwledydd eraill llai na Chymru yn gynhenid well na ni, sy'n amlwg ddim yn wir. Y gwir amdani, onid yw, yw bod pobl Cymru yn effro i'r posibilrwydd, dim ond efallai, na allwn ni fforddio peidio â bod yn annibynnol mwyach.

Crybwyllwyd y bwlch cyllidol gennych: tynnaf eich sylw at yr adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru a ddywedodd nad yw'r bwlch cyllidol hwn, nad yw'n gywir fel y mae, yn adlewyrchiad o gwbl—yn adlewyrchiad o gwbl—ar Gymru annibynnol, ond yn hytrach yn adlewyrchiad o sut nad yw'r DU yn gweithio i Gymru ar hyn o bryd. Y cwestiwn yw pam mae economi Cymru yn dioddef fel y mae ar hyn o bryd. Ac a fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno â mi mai'r ffordd o fagu hyder yn yr hyn y gallwn ni ei gyflawni fel cenedl yw cael confensiwn cyfansoddiadol, gan edrych yn agored ar botensial annibyniaeth i Gymru, mewn cydweithrediad a phartneriaeth â gwledydd eraill, ac edrych ar yr hyn y gallwn ni ei gyflawni, yn hytrach na dangos y diffyg hyder syfrdanol y mae'r unoliaethwyr yn y Siambr hon yn ei ddangos dro ar ôl tro?