Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 15 Hydref 2019.
Diolch. Mae'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru wedi cyhoeddi ei argymhelliad ynghylch Cyngor Cyfraith Cymru. Mae'r nodau a fwriedir ganddo i'w cymeradwyo, yn enwedig hybu cynorthwyo myfyrwyr yn eu haddysg a'u hyfforddiant fel ymarferwyr y dyfodol. Mae manylion y cyngor arfaethedig yn tynnu sylw at y ffaith y bydd yn helpu ysgolion cyfraith Cymru i roi'r addysg a'r hyfforddiant angenrheidiol i'w myfyrwyr er mwyn iddyn nhw ffynnu wrth ymarfer. Nawr, yn ôl UCAS, yn y flwyddyn academaidd hon, dechreuodd 890 o fyfyrwyr israddedig o Gymru ar gyrsiau cyfraith ledled y DU. Er enghraifft, mae prifysgolion fel Caer, Birmingham a Bryste yn ganolfannau allweddol i fyfyrwyr sy'n mynd ymlaen i ymarfer yng Nghymru. A wnewch chi egluro a fydd y comisiwn yn dylanwadu ar addysg ac ymarfer y tu allan i Gymru, ac, os na, esboniwch a ydych chi'n derbyn y gallai hyn fod yn newyddion negyddol o ran ymwybyddiaeth o gyfraith Cymru y mae angen ymdrin â hi?