2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru ar 15 Hydref 2019.
3. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am waith y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru? OAQ54513
Y disgwyl yw y bydd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru yn cyhoeddi ei adroddiad ddydd Iau 24 Hydref, ac rwy'n edrych ymlaen at ddarllen yr adroddiad.
Diolch. Mae'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru wedi cyhoeddi ei argymhelliad ynghylch Cyngor Cyfraith Cymru. Mae'r nodau a fwriedir ganddo i'w cymeradwyo, yn enwedig hybu cynorthwyo myfyrwyr yn eu haddysg a'u hyfforddiant fel ymarferwyr y dyfodol. Mae manylion y cyngor arfaethedig yn tynnu sylw at y ffaith y bydd yn helpu ysgolion cyfraith Cymru i roi'r addysg a'r hyfforddiant angenrheidiol i'w myfyrwyr er mwyn iddyn nhw ffynnu wrth ymarfer. Nawr, yn ôl UCAS, yn y flwyddyn academaidd hon, dechreuodd 890 o fyfyrwyr israddedig o Gymru ar gyrsiau cyfraith ledled y DU. Er enghraifft, mae prifysgolion fel Caer, Birmingham a Bryste yn ganolfannau allweddol i fyfyrwyr sy'n mynd ymlaen i ymarfer yng Nghymru. A wnewch chi egluro a fydd y comisiwn yn dylanwadu ar addysg ac ymarfer y tu allan i Gymru, ac, os na, esboniwch a ydych chi'n derbyn y gallai hyn fod yn newyddion negyddol o ran ymwybyddiaeth o gyfraith Cymru y mae angen ymdrin â hi?
Wel, fel y dywedaf i, o ran yr argymhellion penodol y bydd y comisiwn yn eu gwneud, rydym ni'n aros i weld beth yw'r argymhellion hynny. Rwy'n credu y byddai'n amhriodol rhagfarnu gwaith comisiwn annibynnol o ran hynny. Mae hi'n gwneud pwynt pwysig ynghylch lle mae myfyrwyr yn astudio'r gyfraith a lle maen nhw'n ymarfer yn y pen draw. Mae hi hefyd yn gwybod, rwy'n credu, bod ysgolion cyfraith Cymru yn addysgu'r gyfraith i fyfyrwyr o bob rhan o'r DU a ledled y byd. Felly, mae hwn yn fater lle mae pobl yn astudio y tu mewn a'r tu allan i Gymru ac yn ymarfer mewn nifer o leoliadau.
Ond mae'r pwynt ynglŷn â bod yn gyfarwydd â chyfraith Cymru, sydd, y gwn i, wrth wraidd ei chwestiwn, yn un yr wyf i'n ymwybodol iawn ohono, yn enwedig o ystyried y drafodaeth a gawsom ni mewn mannau eraill ac yn y Siambr hon ar adegau eraill o ran hygyrchedd cyfraith Cymru yn gyffredinol, ac yn sicr mewn trafodaethau yr wyf i wedi'u cael ag ysgolion y gyfraith, ers fy mhenodi'n Gwnsler Cyffredinol, rwyf i wedi ceisio chwilio am gyfleoedd i dynnu eu sylw at ba mor bwysig yw hi i sicrhau bod cyfraith Cymru yn chwarae ei rhan lawn yn y maes llafur a phrosbectws cyrsiau Prifysgol, nid, fel petai, o safbwynt agweddau cyfansoddiadol yn unig, ond hefyd y gyfraith sylwedd. Ac, wrth i ni ddeddfu yma fwyfwy, rwy'n hyderus y bydd y gyfran o'r gyfraith sy'n cael ei haddysgu yn ysgolion y gyfraith yng Nghymru y mae cyfraith Cymru yn ei chynrychioli yn cynyddu.
Wrth gwrs, rhoddodd y Cwnsler Cyffredinol a minnau dystiolaeth i'r comisiwn wrth iddo gael ei ystyried, ac, yn debyg i chi, rwy'n edrych ymlaen at glywed ei adroddiad yr wythnos nesaf. Mae mater sylfaenol yn y fantol yma gyda'i waith, wrth gwrs, ac mae hynny'n ymwneud â natur y setliad o fewn y Deyrnas Unedig. Rydym ni wedi mynd i'r afael â materion yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog ac yn ystod y sesiwn hon o gwestiynau i chi eisoes ar y materion hyn. A ydych chi'n cytuno â mi ei bod yn bwysig, yng Nghymru, wrth inni edrych tuag at ddatblygu ein hawdurdodaeth ein hunain a sicrhau ein bod yn gallu defnyddio’r gyfraith fel mater o gyfiawnder cymdeithasol, ond hefyd llyfr statud cydlynol o ran cyfraith gyfansoddiadol, ein bod yn edrych ledled y byd ar gyfer enghreifftiau o sut y mae hynny'n cael ei gyflawni?
Roeddwn i ac Aelodau eraill yn ddigon ffodus i ymweld â Jerwsalem yn gynharach yn y flwyddyn ac i gyfarfod â chyn brif ustus Israel, lle yr eglurodd sut y tyfodd awdurdodaeth Israel o awdurdodaeth Prydain yn dilyn ymwahaniad mandad y DU yn Palestina, ac roedd yn gallu datblygu awdurdodaeth ei hun dros amser a chymryd pwerau ychwanegol a chyfrifoldebau ychwanegol wrth i amser fynd yn ei flaen. Mae'n ymddangos i mi fod hwnnw'n fodel da iawn i Gymru ac yn fodel da iawn y gallwn ni ei ddilyn o bosibl.
Heb ragfarnu adroddiad y comisiwn yr wythnos nesaf, Cwnsler Cyffredinol, byddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi sicrhau bod aelodau'n cael cyfle cynnar i drafod y materion hyn, a sicrhau hefyd bod gennym werthfawrogiad cyfoethocach o sut y bydd awdurdodaeth i Gymru yn ein helpu ni i gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol, ond hefyd i sicrhau bod gennym ni Deyrnas Unedig sy'n fwy cydlynol ar ddiwedd y broses hon.
Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Bydd gennyf i ddiddordeb mewn trafod ymhellach gydag ef ei fyfyrdodau ar y cyfarfod a'r trafodaethau a gafodd gyda chyn brif ustus Israel. Yn rhinwedd fy swydd fel Cwnsler Cyffredinol, rwyf wedi ystyried mater awdurdodaeth â diddordeb, ac wedi trafod yn yr Alban a Gogledd Iwerddon sut mae eu trefniadau nhw'n gweithio a sut y maen nhw'n wahanol i'n rhai ni yma. Rwy'n credu y bydd adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru yn gweithredu'n rhannol fel catalydd ar gyfer cyfres fwy cyfoethog o drafodaethau yn y sefydliad hwn nag efallai y byddem ni wedi gorfod ei derbyn yn y gorffennol ynglŷn â chwestiynau ynghylch cyfiawnder troseddol, yn fras, a sut mae hynny'n rhan o'r setliad datganoli. Ac, yn benodol, y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud am fater trefniadau awdurdodaeth i'r dyfodol, yn amlwg nid wyf am ragfarnu unrhyw beth y gallai'r Comisiwn ei ddweud, ond mae'r rhain yn faterion pwysig iawn i ni gan fod corff cyfraith Cymru yn parhau i ehangu wrth i ni gyflawni ein gwaith.