Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 15 Hydref 2019.
Wel, fel y dywedaf i, o ran yr argymhellion penodol y bydd y comisiwn yn eu gwneud, rydym ni'n aros i weld beth yw'r argymhellion hynny. Rwy'n credu y byddai'n amhriodol rhagfarnu gwaith comisiwn annibynnol o ran hynny. Mae hi'n gwneud pwynt pwysig ynghylch lle mae myfyrwyr yn astudio'r gyfraith a lle maen nhw'n ymarfer yn y pen draw. Mae hi hefyd yn gwybod, rwy'n credu, bod ysgolion cyfraith Cymru yn addysgu'r gyfraith i fyfyrwyr o bob rhan o'r DU a ledled y byd. Felly, mae hwn yn fater lle mae pobl yn astudio y tu mewn a'r tu allan i Gymru ac yn ymarfer mewn nifer o leoliadau.
Ond mae'r pwynt ynglŷn â bod yn gyfarwydd â chyfraith Cymru, sydd, y gwn i, wrth wraidd ei chwestiwn, yn un yr wyf i'n ymwybodol iawn ohono, yn enwedig o ystyried y drafodaeth a gawsom ni mewn mannau eraill ac yn y Siambr hon ar adegau eraill o ran hygyrchedd cyfraith Cymru yn gyffredinol, ac yn sicr mewn trafodaethau yr wyf i wedi'u cael ag ysgolion y gyfraith, ers fy mhenodi'n Gwnsler Cyffredinol, rwyf i wedi ceisio chwilio am gyfleoedd i dynnu eu sylw at ba mor bwysig yw hi i sicrhau bod cyfraith Cymru yn chwarae ei rhan lawn yn y maes llafur a phrosbectws cyrsiau Prifysgol, nid, fel petai, o safbwynt agweddau cyfansoddiadol yn unig, ond hefyd y gyfraith sylwedd. Ac, wrth i ni ddeddfu yma fwyfwy, rwy'n hyderus y bydd y gyfran o'r gyfraith sy'n cael ei haddysgu yn ysgolion y gyfraith yng Nghymru y mae cyfraith Cymru yn ei chynrychioli yn cynyddu.