Y Cynllun Bathodyn Glas

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 15 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:38, 15 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cydnabod, Cwnsler Cyffredinol, bod llawer o'r materion hyn sy'n cael eu hystyried yn faterion i'r Gweinidog adrannol yn hytrach nag i chi, ond fy mhryder i yw gallu Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ei pholisi'n cael ei ddilyn ledled y wlad. Oherwydd un o'r materion sydd newydd gael ei godi gan Aelod Plaid Cymru dros Dde-orllewin Cymru—yr wyf wedi'i wynebu yn fy etholaeth fy hun—yw nad yw'r awdurdod lleol dan sylw yn cyflawni'r polisi fel y mae wedi'i nodi gan Lywodraeth Cymru. O ran eich swydd chi fel Cwnsler Cyffredinol, a ydych chi'n darparu, neu a ydych chi wedi darparu, unrhyw gyngor i Weinidogion, neu i eraill, ynghylch sut y gallan nhw sicrhau bod y polisi fel y mae wedi'i bennu gan y lle hwn, fel y mae wedi'i bennu gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei gyflawni'n deg ac yn gyson ledled y wlad gyfan?