Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 15 Hydref 2019.
Rwy'n petruso cyn mynnu'r confensiwn, yr wyf yn ymwybodol bod yr Aelod yn deall ei fod yn berthnasol, ynghylch natur y cyngor a roddir o ran y materion hyn. Wrth gwrs, mae cwestiwn ein cymhwysedd ni yn un yr wyf yn ymwybodol iawn ohono, ac, er mai rhan o fy nghyfrifoldeb i fel Cwnsler Cyffredinol yw sicrhau ein bod bob amser yn gweithredu o fewn ein gallu, rwyf yn cymryd hefyd y dylem ni weithredu hyd eithaf ein cymhwysedd, a gallaf ei sicrhau ef bod yr ystyriaethau hynny'n flaenllaw iawn yn fy meddwl wrth ymateb i'r setiau hyn o faterion.