Y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 15 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:44, 15 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Bydd gennyf i ddiddordeb mewn trafod ymhellach gydag ef ei fyfyrdodau ar y cyfarfod a'r trafodaethau a gafodd gyda chyn brif ustus Israel. Yn rhinwedd fy swydd fel Cwnsler Cyffredinol, rwyf wedi ystyried mater awdurdodaeth â diddordeb, ac wedi trafod yn yr Alban a Gogledd Iwerddon sut mae eu trefniadau nhw'n gweithio a sut y maen nhw'n wahanol i'n rhai ni yma. Rwy'n credu y bydd adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru yn gweithredu'n rhannol fel catalydd ar gyfer cyfres fwy cyfoethog o drafodaethau yn y sefydliad hwn nag efallai y byddem ni wedi gorfod ei derbyn yn y gorffennol ynglŷn â chwestiynau ynghylch cyfiawnder troseddol, yn fras, a sut mae hynny'n rhan o'r setliad datganoli. Ac, yn benodol, y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud am fater trefniadau awdurdodaeth i'r dyfodol, yn amlwg nid wyf am ragfarnu unrhyw beth y gallai'r Comisiwn ei ddweud, ond mae'r rhain yn faterion pwysig iawn i ni gan fod corff cyfraith Cymru yn parhau i ehangu wrth i ni gyflawni ein gwaith.