Y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 15 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:43, 15 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs, rhoddodd y Cwnsler Cyffredinol a minnau dystiolaeth i'r comisiwn wrth iddo gael ei ystyried, ac, yn debyg i chi, rwy'n edrych ymlaen at glywed ei adroddiad yr wythnos nesaf. Mae mater sylfaenol yn y fantol yma gyda'i waith, wrth gwrs, ac mae hynny'n ymwneud â natur y setliad o fewn y Deyrnas Unedig. Rydym ni wedi mynd i'r afael â materion yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog ac yn ystod y sesiwn hon o gwestiynau i chi eisoes ar y materion hyn. A ydych chi'n cytuno â mi ei bod yn bwysig, yng Nghymru, wrth inni edrych tuag at ddatblygu ein hawdurdodaeth ein hunain a sicrhau ein bod yn gallu defnyddio’r gyfraith fel mater o gyfiawnder cymdeithasol, ond hefyd llyfr statud cydlynol o ran cyfraith gyfansoddiadol, ein bod yn edrych ledled y byd ar gyfer enghreifftiau o sut y mae hynny'n cael ei gyflawni?

Roeddwn i ac Aelodau eraill yn ddigon ffodus i ymweld â Jerwsalem yn gynharach yn y flwyddyn ac i gyfarfod â chyn brif ustus Israel, lle yr eglurodd sut y tyfodd awdurdodaeth Israel o awdurdodaeth Prydain yn dilyn ymwahaniad mandad y DU yn Palestina, ac roedd yn gallu datblygu awdurdodaeth ei hun dros amser a chymryd pwerau ychwanegol a chyfrifoldebau ychwanegol wrth i amser fynd yn ei flaen. Mae'n ymddangos i mi fod hwnnw'n fodel da iawn i Gymru ac yn fodel da iawn y gallwn ni ei ddilyn o bosibl.

Heb ragfarnu adroddiad y comisiwn yr wythnos nesaf, Cwnsler Cyffredinol, byddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi sicrhau bod aelodau'n cael cyfle cynnar i drafod y materion hyn, a sicrhau hefyd bod gennym werthfawrogiad cyfoethocach o sut y bydd awdurdodaeth i Gymru yn ein helpu ni i gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol, ond hefyd i sicrhau bod gennym ni Deyrnas Unedig sy'n fwy cydlynol ar ddiwedd y broses hon.