Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 15 Hydref 2019.
Yn sicr, ymunaf ag eraill i gofnodi cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r gymuned Gatalaneg yma yng Nghymru, oherwydd mae gennym hanes hir o berthynas agos â Chatalonia ac yn amlwg rydym am weld hynny'n parhau. Rydym yn mwynhau cysylltiadau rhyngwladol gwirioneddol gadarnhaol drwy'r rhwydweithiau Ewropeaidd yr ydym yn eu rhannu, ac mae tua thraean o'r cwmnïau yng Nghymru sy'n eiddo i Sbaen â'u pencadlys yng Nghatalonia. Felly, mae'r cysylltiadau diwylliannol pwysig hyn yn agos, ond hefyd mae cysylltiadau economaidd agos a phwysig.