Part of the debate – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 15 Hydref 2019.
A gaf i alw am ddau ddatganiad? Yn gyntaf, ynghylch y rhaglen INTERREG Iwerddon-Cymru 2014-20, sydd, fel y gwyddoch, yn annog rhanbarthau i gydweithio i fynd i'r afael â heriau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol cyffredin. Yng Nghymru, y ddau ranbarth INTERREG yw gogledd Cymru, gyda phoblogaeth o ychydig dros 696,000, a gorllewin Cymru, gyda 630,000—felly, nid poblogaethau annhebyg. Ond rwyf wedi cael ymateb rhyddid gwybodaeth gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, sy'n dweud bod 62 o brosiectau wedi'u cyflwyno, ond dim ond 19 o'r rhain oedd yn cynnwys partner o Ogledd Cymru, a dim ond 12 a arweiniwyd gan sefydliad yng Nghymru. Ac, o blith 18 o brosiectau a gymeradwywyd, dim ond pump oedd â phartner yng ngogledd Cymru—mae'n ddrwg gennyf, a oedd yn cynnwys partner o'r gogledd—a dim ond dau oedd yn cael eu harwain gan bartner yng ngogledd Cymru. Felly, dim ond 28 y cant o'r prosiectau a gymeradwywyd oedd yn cynnwys partner yng ngogledd Cymru; dim ond 11 y cant a arweiniwyd gan bartner yng ngogledd Cymru. Galwaf am ddatganiad i adlewyrchu'r pryder a godwyd gyda mi— nid fy mhryder i ydyw, er fy mod yn pryderu os yw'r ateb yn ateb anghywir—nad yw prosiectau posibl o dan INTERREG o reidrwydd wedi cael y cymorth a'r ymrwymiad yn y gogledd sydd ganddynt mewn mannau eraill, oherwydd gwn y dylai'r galw yn y gogledd, o bosibl, fod yr un fath o leiaf ag y mae yng ngorllewin Cymru.
Yn ail, a gaf i alw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru am y modd y mae'n datblygu polisi diwygiedig ar dlodi tanwydd yng ngoleuni dau adroddiad newydd? Dywedodd adroddiad ar 3 Hydref gan Archwilydd Cyffredinol Cymru fod nifer yr aelwydydd mewn tlodi tanwydd yng Nghymru wedi gostwng ers 2008, ond bod Llywodraeth Cymru wedi methu ei thargedau. Dywedodd fod achosion tlodi tanwydd yn gymhleth, bod Llywodraeth Cymru wedi gwario £249 miliwn ar ei rhaglen cartrefi clyd i leihau tlodi tanwydd, ond wedi nodi tensiynau rhwng ceisio dileu allyriadau carbon o dai domestig a blaenoriaethu ymdrechion a chyllid ar aelwydydd tanwydd-dlawd, sy'n tueddu i ddefnyddio llai o ynni. Hefyd gwnaed cyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys gwersi a ddysgwyd o'r methiant i gyrraedd y targedau presennol a osodwyd yn 2010, gan gysylltu cynlluniau tlodi tanwydd â gwaith arall i fynd i'r afael ag achos gwaelodol tlodi tanwydd, ac ystyried sut y gallai cynlluniau tlodi tanwydd atal costau mewn meysydd gwasanaeth eraill a chyfrannu at nodau polisi ehangach.
Ac, yn ail, yn y cyd-destun hwn, yr adroddiad ar 7 Hydref gan Sefydliad Bevan, a ddywedodd, er bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud rhywfaint o gynnydd o ran lleihau tlodi tanwydd dros y ddegawd ddiwethaf, nododd mai'r aelwydydd cyfoethocaf oedd wedi elwa fwyaf. Yn 2008, o'r 70 y cant o aelwydydd cyfoethocaf, amcangyfrifwyd bod dros 83,000 yn byw mewn tlodi tanwydd, a bod hynny bellach 75 y cant yn is, tra mai dim ond 25 y cant o ostyngiad a welwyd yng ngwaelod y 10 degfed, y tlotaf, o gartrefi. Felly, erbyn hyn dim ond 21,000 o'r aelwydydd cyfoethocaf a 92,000 o'r aelwydydd tlotaf sydd, fel y dywedasant, yn darparu arwydd o'r rheswm pam mae Llywodraeth Cymru wedi methu yn ei tharged i ddileu tlodi tanwydd, ac yn cynnig, yn y dyfodol, y dylid canolbwyntio'r targedau tlodi tanwydd ar yr aelwydydd tlotaf yn hytrach nag yn gyffredinol. Galwaf am ddatganiad yn unol â hynny.