Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 16 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour 1:40, 16 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i Jenny Rathbone am gyflwyno'r cwestiwn hwn heddiw—cwestiwn hanfodol bwysig ar adeg dyngedfennol i'n planed ac i genedlaethau'r dyfodol? Weinidog, croesawaf eich sylwadau, ond a allwch ddweud wrthyf yn benodol beth rydych yn ei wneud i asesu a dadansoddi effaith gwariant presennol yn ogystal ag unrhyw wariant newydd o ran carbon, a sut rydych yn bwriadu cyhoeddi hyn i ganiatáu i'r Aelodau ac eraill graffu arno?