Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 16 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 1:39, 16 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Pan fydd y pwyllgorau'n gofyn hyn i swyddogion yn ystod y gwaith o graffu ar gyllideb eleni, rwy'n gobeithio na fyddant yn wynebu'r distawrwydd hwnnw. Oherwydd rydym wedi bod yn gweithio'n galed i sicrhau bod swyddogion ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru, nid yn yr adran gyllid yn unig, yn deall pwysigrwydd ymgorffori'r Ddeddf yn eu penderfyniadau. Ac roedd un o'r cyfarfodydd gyda chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn cynnwys uwch swyddogion cyllid o bob rhan o Lywodraeth Cymru—felly, nid yr adran gyllid yn unig—er mwyn sicrhau bod gan swyddogion sy'n gweithio ym maes cyllid yng ngwahanol adrannau'r Llywodraeth ddealltwriaeth gyson o'r angen i ymgorffori'r Ddeddf yn y broses o wneud penderfyniadau.