Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 16 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:50, 16 Hydref 2019

Dwi'n meddwl eich bod chi'n cytuno efo'r math yna o sylw. Mae llesiant pobl yn bwysig i ni. Yn enwog erbyn hyn, mae Seland Newydd wedi cyflwyno dull newydd o gyllido yn canolbwyntio'n benodol ar geisio delifro ar gyfer yr hyn sy'n bwysig i lesiant pobl. Yn agosach at adre, mae Llywodraeth yr Alban hefyd yn mesur ei chyraeddiadau a'i pherfformiad drwy national outcomes, efo pwysau statudol yn cael ei roi i'r rheini drwy'r Community Empowerment (Scotland) Act 2015.

Allwch chi, fel Gweinidog, gadarnhau i fi os oes cais wedi cael ei roi, neu wahoddiad wedi cael ei roi, i Lywodraeth Cymru i ymuno â chynghrair llesiant rhyngwladol, lle mae nifer o wledydd yn gweithio efo'i gilydd i ddatblygu'r union fath o gyllidebau llesiant yma dwi wedi crybwyll yn yr Alban a Seland Newydd?