Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 16 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:49, 16 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Os ydym yn canolbwyntio ar les materol yn unig—ar gynhyrchu nwyddau, er enghraifft, yn hytrach nag ar iechyd, addysg a'r amgylchedd—cawn ein gwyrdroi yn yr un ffordd ag y mae'r mesurau hyn wedi'u gwyrdroi; rydym yn dod yn fwy materol... Os ydym am roi pobl yn gyntaf, mae'n rhaid i ni wybod beth sy'n bwysig iddynt, beth sy'n gwella eu lles a sut y gallwn ddarparu mwy o beth bynnag sy'n gwneud hynny.