Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 16 Hydref 2019.
Nodaf fod yr Arglwydd Bird, sylfaenydd The Big Issue, yn cyflwyno Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn Nhŷ'r Arglwyddi, sydd wedi'i hysbrydoli'n fawr gan waith Llywodraeth Cymru. Felly, da iawn ar hynny. Credaf fod hon yn broses wirioneddol dda, ond mae'n rhaid i mi ddweud, yn y gwaith craffu ariannol y bûm yn rhan ohono mewn pwyllgorau, pan ofynnwch i'r uwch swyddogion pa hyfforddiant y maent wedi'i gael ar ddefnyddio'r Ddeddf wrth bennu cyllidebau, pa benderfyniadau a wnaed sydd wedi bod yn wahanol i brosesau gwneud penderfyniadau blaenorol, lle mae'r newid yn digwydd, rydym weithiau'n cael distawrwydd lletchwith. Felly, rwy'n gobeithio gweld rhywfaint o drylwyredd yn eich gwaith o fonitro a gwerthuso'r modd y defnyddir y Ddeddf yn y broses o bennu'r gyllideb.