Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 16 Hydref 2019.
Diolch yn fawr. Dwi yn meddwl bod y cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithlu yn cynyddu. Fe fyddwch chi'n ymwybodol bod y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn rhoi cyrsiau arbennig ymlaen ar gyfer pobl sydd am siarad Cymraeg yn y gweithle. Felly, mae sicrhau bod mwy o bobl yn gallu dysgu yn help aruthrol, dwi'n meddwl, ond hefyd gwaith y comisiynydd yw sicrhau bod y safonau yn yr holl adrannau a'r holl ardaloedd lle mae angen iddyn nhw gydymffurfio gyda'r safonau newydd—mae'n bwysig eu bod nhw yn cael cyfle hefyd. Beth dŷn ni wedi bod yn trafod gyda'r comisiynydd, a beth mae e'n awyddus i'w wneud, yw sicrhau eu bod nhw ddim jest yn plismona safonau ond hefyd yn sicrhau bod yna gyfle i bobl hyrwyddo'r Gymraeg, i ddefnyddio’r Gymraeg, a bod yr help yna yn ychwanegol yn cael ei roi mewn i'r system.