Datblygu'r Gymraeg

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 16 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 2:49, 16 Hydref 2019

Weinidog, mae adroddiad 'Hawlio cyfleoedd' Comisiynydd y Gymraeg yn dangos mai dim ond 37 y cant o bobl sy'n credu bod y cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn cynyddu, ac felly mae'n amlwg bod yn rhaid gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth o wasanaethau Cymraeg, a bod angen gwneud mwy i nodi a gwella sgiliau Cymraeg, yn enwedig yn y gweithlu.

Mewn ymateb i'r adroddiad hwn, a allwch chi ddweud wrthym ni beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu sefydliadau cyhoeddus i wella eu prosesau mewnol i sicrhau cydymffurfiaeth, a pha gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn meysydd lle mae llai o siaradwyr Cymraeg, i sicrhau bod gan sefydliadau cyhoeddus ddigon o staff syn gallu cynnig gwasanaethau Cymraeg yn y lle cyntaf?