Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 16 Hydref 2019.
Diolch yn fawr. Roedd y cyngor ym Mlaenau Gwent wedi bod yn glir eu bod nhw am weld ehangiad—eu bod nhw wedi arwyddo cytundeb i ddweud eu bod nhw eisiau gweld ehangiad yn narpariaeth y Gymraeg. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi 100 y cant o'r arian cyfalaf ar gyfer agor ysgol newydd, ond mae'n edrych yn debyg eu bod nhw'n ceisio symud yn ôl o'r sefyllfa yna. Dwi'n gwybod ac yn ymwybodol bod y Gweinidog Addysg eisoes wedi siarad â'r person sy'n gyfrifol am addysg ym Mlaenau Gwent. Nhw oedd wedi cytuno'r strategaeth, eu strategaeth nhw yw hi nawr, a byddwn ni fel Llywodraeth yn disgwyl iddyn nhw sicrhau eu bod nhw'n rhoi blaenoriaeth i hynny ac yn cyflawni'r hyn y dywedon nhw roedden nhw'n mynd i'w wneud.