Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 16 Hydref 2019.
Dwi eisiau hefyd gymryd mantais ar y ffaith bod y Gweinidog Addysg yn ei lle y prynhawn yma. Mi fyddwch chi'n ymwybodol, Weinidog, fod cyngor Blaenau Gwent wedi gwneud cais ar gyfer ysgol gynradd newydd Gymraeg yn Nhredegar. Nawr, dwi ddim yn becso os yw hi yn Nhredegar neu yn unrhyw gymuned arall tu mewn i'r sir, ond dwi yn ymwybodol bod rhaid i Blaenau Gwent ddelifro ar ei gynnig ei hun i greu ysgol Gymraeg yn y fwrdeistref. A oes modd i chi, Weinidog, sicrhau bod y cyngor lleol yn cadw at ei fwriad i sicrhau bod yna ysgol gynradd Gymraeg newydd ym Mlaenau Gwent, a bod y Llywodraeth yn glir yn ei huchelgais i alluogi pobl a phlant yn fy etholaeth i i dderbyn yr un math o addysg ag sydd ar gael i bobl ar draws y wlad?