Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 16 Hydref 2019.
Wel, fe fyddwch yn gwybod, Hefin, fod caniatâd eisoes wedi'i roi ar gyfer defnydd preswyl ar y safle hwnnw. Ac yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a'r datblygwr preifat yn cael trafodaethau parhaus am ddyfodol y safle. Fodd bynnag, mae’r Gweinidog perthnasol, sy'n eistedd wrth fy ymyl, wedi clywed yr hyn sydd newydd gael ei ddweud. Mae parc rhanbarthol y Cymoedd yn cynnwys Parc Penallta fel porth darganfod, ac mae'n rhaid ystyried y dynodiadau hyn, p'un a ydynt mewn ardaloedd treftadaeth ddiwydiannol neu dreftadaeth tirwedd, yn rhywbeth mwy na dynodiad yn unig; mae'n rhaid iddynt gael polisi clir i'w llywio o ran eu cadwraeth eu hunain. Rwy'n hyderus y bydd y £900,000, y gwnaethoch ei groesawu'n ddiolchgar ar gyfer y ganolfan ymwelwyr newydd a'r rhaglen o weithgareddau cymunedol ar y safle hwnnw, yn arwain at hynny.